Cynllun Llwybr i Lesiant gan Ramblers Cymru yn llwyddo i greu 145 llwybr cerdded newydd

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae cynllun Llwybr i Lesiant Ramblers Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi helpu i greu 145 o lwybrau cerdded newydd ar draws Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’r prosiect wedi bod yn helpu 18 o gymunedau ar draws Cymru gyfan i greu llwybrau hygyrch, hawdd i’w dilyn a’u defnyddio ar gyfer pobl o bob gallu.

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd Angela Charlton, cyfarwyddwr Ramblers Cymru: ‘Cafodd y prosiect ei greu i edrych ar ffyrdd newydd o wella llwybrau a mynediad, gan ein bod yn amcangyfrif bod tua 50% o’r llwybrau (Hawliau Tramwy Cyhoeddus) yng Nghymru yn anhygyrch.

Rydym yn credu mai’r model prosiect Llwybrau i Lesiant yw’r ffordd ymlaen, a bod angen i ni weithio gyda chymunedau i’w helpu i gymryd perchnogaeth o’u rhwydwaith llwybrau lleol. Gall rhoi cerdded wrth galon y gymuned gyflawni cymaint o fanteision, o well iechyd a lles i ddenu ymwelwyr a all roi hwb i’r economi leol a chysylltu cymunedau â’i gilydd a’u treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.’

Mae mwyafrif o’r llwybrau cerdded newydd hyn yn addas i deuluoedd, ac mai rhai yn llwybrau sy’n addas ar gyfer mynediad i fygis a’r rheini sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Mae modd edrych ar yr holl lwybrau ar fap rhyngweithiol Ramblers Cymru drwy ddilyn y ddolen hon. Gallwch ddarllen mwy am y cynllun Llwybrau Llesiant yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This