Comisiynydd y Gymraeg yn lansio canllawiau arwyddion dwyieithog

Gorffennaf 2023 | Arfor, Sylw

Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi lansio canllawiau i fusnesau ac elusennau eu defnyddio er mwyn hwyluso defnydd o’r Gymraeg ar arwyddion.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn gweld hyn fel rhan o’u gwaith yn hwyluso cyngor i unigolion sydd efallai angen cymorth neu gyfarwyddyd ynghylch sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gweithleoedd tu hwnt i’r sector gyhoeddus. Mae hefyd yn chwarae rhan yn awydd y Comisiynydd Iaith, Efa Gruffydd Jones, i ddarparu cyngor ymarferol ac eglur i unigolion, fusnesau a sefydliadau bydd yn helpu i hyrwyddo defnydd pellach o’r Gymraeg yn yr hir dymor.

Mae’r canllawiau diweddaraf hyn yn rhan o gyfres o adnoddau mae swyddfa’r Comisiynydd yn eu darparu i fusnesau a sefydliadau sydd eisiau cynyddu defnydd o Gymraeg. Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael mae canllawiau ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, sut i ddylunio yn ddwyieithog, sut i ystyried y Gymraeg wrth recriwtio ymhlith nifer o adnoddau eraill sy’n trafod sut mae mynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd hwylus yn eich sefydliad.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynyddu gwelededd y Gymraeg yn eu busnes neu sefydliad ganfod y canllawiau, ynghyd a gwybodaeth bellach ynghylch manteision defnyddio’r Gymraeg yn eich busnes, drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This