Cadw’r ddysgl yn wastad: drafft Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2023

Gorffennaf 2023 | Sylw, Tlodi gwledig

selective focus photography of woman feeding baby

Yn ddiweddar fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi drafft o’i Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2023 er mwyn cael ymgynghori a’r cyhoedd. Mae’r ddogfen yn un cynhwysfawr sy’n amlinellu dull penodedig y Llywodraeth i fynd i’r afael a thlodi plant. Mae’r strategaeth yn un sy’n adeiladu ar fuddsoddiad y ddegawd ddiwethaf ac yn adnabod pum nod a phum blaenoriaeth i’w gweithredu’n syth.

Eto, mae ymchwil yn dangos bodolaeth ‘premiwm gwledig’, lle gwelwn fod ffactorau ychwanegol a phenodol yn cyfrannu at dlodi mewn ardaloedd gwledig. Mae’r cwestiwn wedyn yn codi a ddylid trafod ac ymdrin â ‘thlodi gwledig’ mewn modd gwahanol i dlodi dinesig, gan ystyried yr amrywiaeth o ffactorau dylanwadol sydd ar waith? Ynte a oes yna ffactorau sy’n cyfrannu at dlodi, a’r strategaethau polisi sy’n cael eu gweithredu er mwyn ei leddfu, sydd yr un mor berthnasol yng nghyd-destunau dinesig a gwledig?

Amcanion a blaenoriaethau’r strategaeth

Amcanion y strategaeth yw ceisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o incymau, creu llwybrau allan o dlodi, cefnogi llesiant plant a theuluoedd, sicrhau urddas a pharch gan wasanaethau cymorth a gwneud yn siŵr fod yna gyd-weithio traws llywodraethol effeithiol. Mae’r blaenoriaethau yn canolbwyntio ar hawl (rhoi arian ym mhoced pobl), creu cenedl Gwaith Teg, adeiladu cymunedau, cynwysoldeb a galluogi cyd-weithio.

Gall yr amcanion a’r blaenoriaethau hyn helpu i fynd i’r afael ag amryw o ffurfiau ar dlodi. Er enghraifft, gall canolbwyntio ar leihau costau a gwneud y mwyaf o incymau helpu i ddatrys costau byw uchel mewn ardaloedd gwledig. Yn yr un modd, gall pwysleisio creu llwybrau allan o dlodi wella mynediad at wasanaethau cyhoeddus, cymorth lles a thrafnidiaeth yng nghefn gwlad.

Y dolenni coll

Er yr holl fuddiannau hyn, nid yw’r strategaeth yn crybwyll nac yn cynnig mesurau y byddai’n mynd i’r afael a’r nifer o ffurfiau o dlodi sydd i’w canfod mewn ardaloedd gwledig, megis tlodi ynni, tlodi digidol, tlodi teithio, cartrefi a digartrefedd a thlodi bwyd.

Mae’r strategaeth hefyd fel pe bai’n anwybyddu’r cysylltiad uniongyrchol sydd rhwng y ffurfiau yma o dlodi a thlodi plant. Pan mae rhieni yn brwydro a phroblemau megis tlodi ynni, tlodi digidol neu dlodi bwyd, mae eu plant hefyd wrth reswm yn byw mewn tlodi. Mae’r ffurfiau hyn o dlodi yn gallu cyfyngu cyfleoedd plant ac effeithio eu llesiant mewn ffordd negyddol, ac felly hanfodol yw ceisio ymdrin â hwy yn y strategaeth.

Effaith tlodi ar ddatblygiad plant

Mae ymchwil wedi dangos fod tlodi a pherthynas agos iawn i iechyd gwaeth ymysg plant ac yn gallu amharu ar eu datblygiad. Mae diffyg ysgogi, iselder mamol a diffyg maeth yn gallu effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd ac arwain at ganolbwyntio a gallu gwybyddol gwaeth yn hwyrach mewn bywyd. Mae mynd i’r afael a’r ffurfiau hyn o dlodi felly nid yn unig yn fater o sicrhau cyfiawnder economaidd ond hefyd yn gam hanfodol tuag at ddatblygiad iach ein plant ac i sicrhau eu bod yn gweld llwyddiant yn y dyfodol.

Galw am weithgarwch

Tra bod Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru 2023 yn gam i’r cyfeiriad cywir, mae’n glir bod angen gwneud mwy i ymladd tlodi plant yn ei holl ffurfiau ym mhob rhan o Gymru. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried edrych ar y ffurfiau hyn o dlodi yn ei strategaeth a dylai gynnig mesurau penodol i’w datrys. Dyma’r unig fodd i ni allu gobeithio brwydro yn erbyn tlodi plant yng Nghymru.

Dilynwch y ddolen i ddarllen ac ymateb i Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru 2023 Llywodraeth Cymru.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This