Y Rural Coalition yn galw ar y pleidiau i weithredu o blaid cefn gwlad

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae adroddiad y Rural Coalition wedi galw ar bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i bolisïau bydd yn grymuso ardaloedd gwledig yn Lloegr cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae’r gynghrair, sydd wedi ei ffurfio o 13 sefydliad ar draws Lloegr gan gynnwys yr NFU, y Plunkett Foundation a’r National Housing Federation, wedi galw ar bob plaid i sicrhau bod pob maniffesto a gynhyrchir ganddynt yn cynnwys syniadau polisi bydd yn helpu i wella amodau busnesau a chymunedau cefn gwlad. Mae nifer o’r problemau sy’n wynebu cefn gwlad Lloegr yn debyg iawn i’r rheini sy’n wynebu Cymru wledig ac mae adroddiad o’r fath yn gyfle i ddysgu o’r hyn sydd yn digwydd ar draws y ffin. Tynna’r adroddiad sylw penodol at broblemau cyfarwydd sydd angen eu datrys ar frys er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i gefn gwlad.

Ymhlith gofynion y gynghrair mae galwadau ar unrhyw Lywodraeth San Steffan y dyfodol i sicrhau:

  • Fod ganddynt strategaeth wledig gwmpasog sy’n dod a gwahanol adrannau’r Llywodraeth ynghyd yn enw sicrhau twf cynaliadwy i gymunedau a busnesau gwledig.
  • Sicrhau cyllid teg fel bod y gwant rhwng cyllidebau cefn gwlad a rhai dinesig yn cael ei gau.
  • Buddsoddi mewn isadeiledd yng nghefn gwlad, gan gynnwys ehangu’r grid cenedlaethol, buddsoddiad mewn gwasanaethau rhyngrwyd a sicrhau fod yna rwydweithiau trafnidiaeth ddigonol.
  • Cynllun cydlynol i helpu pobl addasu yn sgil newid hinsawdd.
  • Creu economi wledig lewyrchus drwy fuddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant.

Mae modd darllen mwy o argymhellion y Rural Coalition yn yr adroddiad llawn, sydd i’w ganfod yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This