Llwyddo’n Lleol 2050 yn lansio rhaglen newyddiaduraeth

Hydref 2023 | Arfor, Sylw

MacBook Pro near white open book

Mae rhaglen Llwyddo’n Lleol 2050, wedi cyhoeddi eu bod am gynnal cwrs bydd yn dysgu sgiliau newyddiadurol i bobl ifanc. Daw hyn fel rhan o’u gwaith ar gynllun ARFOR i hybu gweithgarwch mentrus oddi fewn i gymunedau’r ardal. Y bwriad yw meithrin sgiliau newyddiadurol ar lawr gwlad yn ARFOR er mwyn rhoi’r gallu i bobl leol i adrodd y straeon sy’n effeithio ar eu cymunedau.

Mae cyfle i 12 person gymryd rhan yn y cwrs bydd yn edrych ar amrywiaeth o wahanol elfennau yn ymwneud a newyddiaduraeth ar draws 6 sesiwn wedi eu cynnal gan arbenigwyr yn y maes. Bydd cyfle i’r rheini sy’n cymryd rhan ddysgu sut i ddod o hyd i stori, sut i strwythuro erthygl newyddiadurol, sut mae gwneud gwaith ymchwil ar gyfer paratoi erthyglau ynghyd a sut mae defnyddio cyfryngau a phlatfformau gwahanol i gyhoeddi eu gwaith.

Os ydych am ragor o wybodaeth ynghylch y cwrs cysylltwch â llwyddonlleol@rhaglenarfor.cymru. Mae modd canfod ffurflen gais ar gyfer y cwrs drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This