Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhoi croeso i academydd o wlad y Basg

Hydref 2023 | Arfor, Sylw

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn estyn croeso i Dr Harkaitz Zubiri Esnaola o Brifysgol Gwlad y Basg o dan brosiect Cymrodoriaeth Etxpare Alan R. King. Mae’r gymrodoriaeth, sydd wedi ei enwi ar ôl yr ieithydd diweddar Alan Roy King, yn rhoi cyfle bob blwyddyn i ysgolheigion o Wlad y Basg ddod i Gymru er mwyn cynnal gwaith ymchwil a chyfrannu at gyfnewid syniadau ac addysg ym meysydd sosioieithyddiaeth a pholisi iaith. Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg yn 2022. Nod y bartneriaeth yw cryfhau’r cysylltiadau academaidd sy’n bodoli rhwng Cymru a Gwlad y Basg ym meysydd polisi a chynllunio iaith.

Mae Dr harkaitz Zubiri yn dysgu yn adran Addysg, Athroniaeth ac Anthropoleg Prifysgol Gwlad y Basg ac yn arbenigo ym meysydd addysg a chaffael iaith y Fasgeg. Bydd yn treulio chwe wythnos yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ac fe fydd yn cynnal sawl digwyddiad ar yr iaith Fasgeg a’r agweddau ieithyddol sydd ar waith yng Ngwlad y Basg.

Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru:

‘Dyma’r ail flwyddyn i ni groesawu ysgolhaig o Wlad y Basg  i Gadair Breswyl Alan R. King mewn  Sosioieithyddiaeth,  fel rhan o’r bartneriaeth arbennig  rhwng y Brifysgol a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg. Mae arbenigedd Dr Harkaitz Zubiri ym maes addysg cyfrwng Basgeg yn arbennig o amserol i ni yng Nghymru. Edrychwn ymlaen yn arbennig at ei ddarlith yn y Llyfrgell Genedlaethol  ac at yr elfennau eraill yn ei raglen waith ym maes sosioieithyddiaeth, polisi iaith a chynllunio i gryfhau’r cyswllt rhwng Cymru a Gwlad y Basg.’

Dywedodd Dr Harkaitz Zubiri Esnaola:

‘Gall addysg chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau mynediad cyfartal i ddysgu iaith i bawb. Y brif flaenoriaeth yw nodi pa gamau addysgol sy’n gwneud hyn yn bosibl. Er bod modelau trochi yn gefnogol iawn, efallai na fyddant yn gwarantu llwyddiant i’r holl fyfyrwyr. Trwy archwilio statws ieithoedd fel Basgeg a Chymraeg mewn lleoliadau addysgol a chyfnewid canfyddiadau ymchwil perthnasol sy’n canolbwyntio ar effaith gymdeithasol gallwn fynd i’r afael â’r her hon yn well. Mae Cadair Alan R. King yn cynnig llwyfan ardderchog ar gyfer yr ymdrech hon, ac rydym eisoes yn gwneud y gorau o’r cyfle hwn.’

Bydd Dr Harkaitz Zubiri yn cynnal ei ddarlith gyntaf ar nos Iau, 26 Hydref 2023 am 5:00 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Teitl y ddarlith bydd ‘Making Basque accessible to all: exploring successful actions aimed at effective teaching and learning the language in schools’. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae modd trefnu i fynychu’r digwyddiad wyneb yn wyneb neu drwy ddolen Zoom drwy gysylltu â canolfan@cymru.ac.uk.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This