Llygredd afonydd: bygythiad i ddyfrffyrdd Cymru

Gor 15, 2023 | O’r afon i’r môr, Sylw

Mae Cymru yng nghrafangau argyfwng natur ddifrifol, yn syfrdanol mae 17% o’i rhywogaethau yn wynebu bygythiad o ddifodiant. Mae’r sefyllfa druenus hon yn deillio’n bennaf o golli cynefinoedd, llygredd ac effeithiau dirdynnol newid hinsawdd. Ynghyd a’r gofidion ehangach ynghylch llygredd, mae llygredd afonydd yn peri bygythiad mawr i harddwch naturiol a chydbwysedd ecolegol Cymru. Mae’r ffaith bod afonydd yn cael eu llygru yn sgil amrywiaeth o ddeunyddiau yn cael eu gollwng ynddynt yn cael effaith enfawr nid yn unig ar y dŵr ei hun ond y bywyd gwyllt amrywiol sy’n dibynnu arno.

Un o achosion llygredd afon yng Nghymru yw arllwyso gwastraff diwydiannol. Mae diwydiannau yn aml yn gollwng cemegolion niweidiol, metelau trwm a dŵr gwastraff heb ei drin i’r afonydd, sy’n cael effaith andwyol ar ansawdd y dŵr ac yn creu amgylchedd tocsig i organebau dyfrol. Mae’r llygredd hwn nid yn unig yn bygwth pysgod a rhywogaethau dyfrol eraill ond hefyd yn ymyrryd ar gadwyni bwyd bregus ac ecosystemau sy’n ddibynnol ar yr afonydd. Mae gweithgareddau amaethyddol hefyd yn gallu cyfrannu at lygredd afonydd. Mae defnydd gormodol o wrteithiau a phlaladdwyr yn gallu arwain at sylweddau niweidiol yn llifo i afonydd. Gall hyn achosi blŵm algaidd, lleihau lefelau ocsigen a pheri niwed i fywyd dyfrol. Hefyd mae trin gwastraff mewn modd diffygiol wrth ffermio da byw yn gallu arwain at lygru ffynonellau dwr oherwydd dom a gwastraff o fathau gwahanol.

Gofid mawr arall yw gollwng carffosiaeth heb ei drin i afonydd. Mae systemau trin dŵr gwastraff annigonol neu ddiffygiol yn gallu arwain at garffosiaeth yn cael ei ryddhau yn uniongyrchol i afonydd, sy’n cyflwyno bacteria a phathogenau i’r dŵr. Mae’r llygredd hwn yn peri risg i iechyd pobl ac yn cyflwyno her ddifrifol i barhad ecosystemau dyfrol. Mae effaith llygredd afon yn ymestyn tu hwnt i’r amgylchedd agos. Mae nifer o afonydd yng Nghymru yn gweithredu fel ffynonellau dwr hanfodol i gymunedau, ac mae llygredd yn cael effaith ar argaeledd ac ansawdd y dŵr hwn. Mae dŵr wedi ei lygru hefyd yn gallu cael effaith negyddol ar y diwydiant twristiaeth ac mae ymwelwyr yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau megis pysgota, hwylio, nofio gwyllt neu i fwynhau prydferthwch naturiol y dyfrffyrdd hyn.

Gan gydnabod yr angen i weithredu ar fyrder, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y targed i leihau llygredd afonydd 50% erbyn 2030. Mae’r ymrwymiad hwn yn tanlinellu pa mor bwysig yw gwarchod iechyd dwr Cymru ac i warchod y rhywogaethau niferus ac amrywiol sy’n ddibynnol arno. I gyflawni’r uchelgais hwn, mae sawl sefydliad yn gweithio i ddatrys llygredd afon yng Nghymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Dwr Cymru a sefydliadau trydydd sector megis Ymddiriedolaeth Natur Cymru ymysg y nifer o sefydliadau sy’n ymdrechu i amddiffyn ac adnewyddu hygrededd ein hafonydd. Maent yn chwarae rôl allweddol yn monitro ansawdd, gorfodi rheoliadau, a gweithredu mesurau i liniaru llygredd. I fynd i’r afael a llygredd mewn afonydd yng Nghymru, mae angen ymdrech ar y cyd i sicrhau:

  1. Cryfhau rheoliadau a gorfodi: mae angen cyflwyno rheoliadau mwy llym i gyfyngu faint o ollyngiadau o wastraff diwydiannol sy’n cael eu rhyddhau ac i sicrhau bod carthffrydiau yn cael eu trin yn iawn cyn cael eu rhyddhau i afonydd. Mae monitro cyson a gorfodaeth gadarn yn angenrheidiol er mwyn dwyn y rheini sy’n llygru yn atebol am eu gweithredoedd.
  2. Hyrwyddo dulliau ffermio cynaliadwy: mae angen annog ffermwyr i fabwysiadau dulliau ffermio cynaliadwy er mwyn lleihau defnydd o gemegolion niweidiol a lliniaru’r posibilrwydd eu bod yn rhedeg i mewn i afonydd. Mae gweithredu technegau effeithiol o drin y tir, megis lleiniau clustogi a chnydau gorchudd yn gallu helpu i leihau llygredd sy’n dyfod o ganlyniad i amaeth.
  3. Gwella isadeiledd trin dŵr gwastraff: mae buddsoddi mewn gwella a chynnal gorsafoedd trin dŵr gwastraff yn angenrheidiol i sicrhau fod carffosiaeth yn cael ei drin yn effeithiol cyn cael ei ryddhau i afonydd. Mae moderneiddio isadeiledd a hyrwyddo defnydd o dechnolegau trin dŵr blaengar yn gallu lleihau effaith carffosiaeth yn sylweddol.
  4. Annog ymwybyddiaeth a gweithgarwch cymunedol: mae addysgu’r cyhoedd ynghylch cadwraeth afonydd a’r effaith wael y gall llygred achosi yn gallu annog ymdeimlad o gyfrifoldeb. Mae gweithgareddau cymunedol megis mentrau glanhau afonydd ac annog rhaglenni gwyddoniaeth lawr gwlad yn gallu helpu i arsylwi a datrys problemau llygredd afon mewn modd effeithlon.

Mae lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn hanfodol. Mae mabwysiadu arferion cynaliadwy yn ein bywyd dydd i ddydd, megis lleihau ein defnydd o gemegolion niweidiol, gwaredu gwastraff yn y dull cywir ynghyd a lleihau ein defnydd o ddŵr yn gallu helpu i atal llygredd rhag cyrraedd ein hafonydd. Mae newidiadau bach yn ein harferion yn gallu cael effaith mawr ar warchod ansawdd adnoddau dwr. Ynghyd a gweithredoedd unigol, mae lleisio barn fel lliaws yn angenrheidiol. Mae siarad â’n cynrychiolwyr etholedig am bwysigrwydd gwarchod ein hafonydd a chefnogi mentrau sydd a’r nod o leihau llygredd yn gallu helpu i ledaenu’r neges a chreu newid sydd o bwys.

Wrth fynd i’r afael a llygredd mewn afonydd yng Nghymru, gallwn warchod iechyd ein dyfrffyrdd, gynnal ecosystemau hanfodol a sicrhau lles bywyd gwyllt a chymunedau lleol. Drwy weithredu ar y cyd ac ymrwymiad i ddulliau cynaliadwy, gallwn adfywio iechyd ein hafonydd i genedlaethau’r dyfodol gael eu trysori.

Share This