Cefnogi ffermwyr ac ymladd llygredd afon

Gorffennaf 2023 | O’r afon i’r môr, Sylw

a river with rocks and people

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bwriad i weithredu ynghylch llygredd afon yng Nghymru wedi iddynt gyhoeddi buddsoddiad o £40 miliwn dros y tair blynedd nesa gyda’r nod o ymladd llygredd mewn afonydd. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu er mwyn gwella ansawdd dŵr, lleihau llygredd o ganlyniad i amaethyddiaeth, ac i helpu ffermwyr i fabwysiadau gweithdrefnau cynaliadwy. Roedd hefyd ymrwymiad i fuddsoddi hyd at £10 miliwn ar gyfer cynorthwyo adeiladu isadeiledd ar ffermydd bydd yn helpu i reoli maetholion ac i helpu ffermwyr gydymffurfio a Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol. Bydd pecyn cymorth i ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd gwerth £227 miliwn dros y tair blynedd nesa yn cael ei weithredu i gefnogi gwydnwch yr economi wledig, gan gynnwys mesurau i fynd i’r afael a llygredd o ganlyniad i amaethyddiaeth.

Er mwyn rheoleiddio llygredd amaethyddol yn effeithlon, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau sy’n ei gwneud hi’n orfodol i ffermwyr i fabwysiadau dulliau rheoli’r tir sy’n lleihau’r risg o lygredd. Drwy orfodi’r rheoliadau hyn, mae’r llywodraeth am sicrhau fod gwaith ffermydd yn cael ei gynnal mewn modd sy’n gyfrifol yn nhermau amgylcheddol.

Mae cyd-weithio a ffermwyr a rhanddeiliaid eraill yn rhan hanfodol o weledigaeth Llywodraeth Cymru yn eu hymgais i ddatrys llygredd mewn afonydd. Mae’r llywodraeth yn ymroddedig i weithio ochr yn ochr â ffermwyr i ddatblygu atebion effeithlon gall leihau llygredd ac amddiffyn iechyd afonydd Cymru. Drwy feithrin yr egwyddor gydweithredol hon, mae’r llywodraeth yn gobeithio i fynd i’r afael a’r broblem mewn modd trwyadl a chael effaith gadarnhaol.

Yn ychwanegol i’r mesurau hun, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn canolbwyntio ar wella dulliau monitro llygredd mewn afonydd drwy:

  • Gwella monitro i gynorthwyo ffyrdd o adnabod ffynonellau llygredd, bydd yn caniatáu targedu adnoddau’n well a strategaethau lliniaru llygredd mwy effeithlon.
  • Buddsoddi mewn ymchwil i ddeall achosion llygredd afon. Mae hyn yn cynnwys archwilio effaith newid hinsawdd a gweithdrefnau amaethyddol ar ansawdd dŵr. Drwy feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r pwnc, gall y llywodraeth ddatblygu strategaethau sy’n fwy hyddysg ac wedi’u targedu’n well.
  • Darparu cymorth ariannol i ffermwyr drwy grantiau sydd wedi eu dylunio ar gyfer gwella ansawdd dŵr ar eu tir. Gall y gefnogaeth hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer amryw o ddibenion, megis gosod pyllau slyri a mabwysiadu dulliau pori cynaliadwy. Drwy helpu ffermwyr i osod y mesurau hyn yn eu lle, mae’r llywodraeth yn bwriadu gwella ansawdd dŵr o’i darddiad.
  • Gweithio mewn cydweithrediad ac awdurdodau lleol i wella dulliau ymdrin â gwastraff. Mae ymdrechion ar waith i leihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, sy’n cyfrannu at greu amgylchedd glanach a lleihau’r peryg o lygredd mewn afonydd ac ardaloedd dyfrol eraill.

Mae addysg a gweithgareddau cynyddu ymwybyddiaeth yn elfennau hanfodol o strategaeth Llywodraeth Cymru. Drwy addysgu’r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth am lygredd afonydd, mae’r llywodraeth am annog ymddygiad cyfrifol a chreu ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at afonydd Cymru. Mae’r ymdrechion hyn yn cynnwys rhaglenni mewn ysgolion ac ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd bydd yn tanlinellu pwysigrwydd cynnal ansawdd dŵr.

Ymddengys Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydd yr amryw weithredoedd ar y cyd hwn yn effeithiol ac yn datrys llygredd mewn afonydd, gan amddiffyn afonydd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy fuddsoddi mewn ymchwil, cyd-weithio a ffermwyr a rhanddeiliaid, gosod rheoliadau yn eu lle a chodi ymwybyddiaeth, mae’r llywodraeth yn anelu i greu amgylchedd glanach ac iachach. Er y gall cymryd peth amser i weld llawn effaith y mentrau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl lleihad sylweddol yn lefelau llygredd erbyn 2030.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This