Ffosffadau mewn llygredd afon: chwilio am ddatrysiad

Gorffennaf 2023 | O’r afon i’r môr, Sylw

a river running through a lush green field

Mae ffosfforws, maetholyn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd, wedi dyfod yn destun gofid mawr yng nghyd-destun llygredd afon. Mae ffosffadau sy’n cael eu rhyddhau mewn ardaloedd dyfrol yn gallu arwain at ganlyniadau amgylcheddol niweidiol, megis ewtroffigedd sy’n bygwth bywyd dyfrol ac iechyd cyffredinol afonydd. Mae’r erthygl hon yn edrych ar ffynonellau ac effaith llygredd ffosfforws mewn ardaloedd dyfrol, yn trafod ymdrechion cydweithredol i fynd i’r afael a’r broblem ac yn archwilio strategaethau’r dyfodol ar gyfer lleihau dibyniaeth ar ffosfforws a hyrwyddo gweithdrefnau cynaliadwy.

 

Ffynonellau ac effaith llygredd ffosfforws

Daw ffosfforws i ardaloedd dyfrol o amryw o ffynonellau, gan gynnwys o ganlyniad i ddulliau amaethu, carthffosiaeth a dulliau coedwigaeth. Mae systemau amaethyddol dwys, megis ffermydd llaeth, tatws a gwenith yn cyfrannu’n helaeth i ddŵr ffo. Mae’n rhaid i garthffosiaeth, sy’n cynnwys lefelau uchel o ffosfforws yn naturiol, gael ei drin yn effeithiol cyn cael ei ryddhau i afonydd. Yn hanesyddol, roedd ffosfforws yn bresennol mewn glanedyddion ond mae’r arfer hwn wedi ei leihau ac wedi ei waredu’n llwyr mewn llawer o wledydd. Mae coedwigaeth, er iddo gael ei ystyried yn ddiwydiant sy’n gyfrannwr isel i lefelau ffosfforws, yn gallu achosi rhyddhad o lefelau uchel o ffosfforws ar adegau pan mae newid yn nefnydd y tir. Wrth i ffosfforws redeg i’r dŵr, mae’n achosi ewtroffigedd, sy’n arwain at ormodedd o algâu, lleihad yn lefelau ocsigen a niwed i ecosystemau dyfrol.

 

Ymdrin â llygredd ffosfforws

Wrth gydnabod cymhlethdod a chydgysylltiad y broblem ffosffadau, mae ymdrechion cydweithredol yn hanfodol i ymladd y broblem o lygredd ffosfforws mewn afonydd. Mae Cyfarfod Ffosffadau Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel platfform i drafod mesurau cyfunol a cydweithredol ar draws gwahanol sectorau. Drwy feithrin trafodaeth ac ymagwedd gyfannol, gall rhanddeiliaid weithio gyda’i gilydd i ddadwneud y niwed a achosir gan ffosffadau mewn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (Special Areas of Conservation neu SAC) yng Nghymru. Mae’r dull hwn yn mynnu llywodraethu effeithiol, arweinyddiaeth a chydlynu effeithlon er mwyn mynd i’r afael a’r broblem amgylcheddol cymhleth a parhaus hyn.

 

Amddiffyn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC) yng Nghymru

Mae afonydd SAC yng Nghymru megis y Cleddau, Eden, Gwyrfai, Teifi, Tywi, Glaslyn, Dyfrdwy, y Wysg a’r Gwy yn cynnal bywyd gwyllt ac ecosystemau unigryw. Eto, mae tystiolaeth o Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos fod llygredd ffosfforws yn eang yn afonydd SAC Cymru, gyda dros 60% o ardaloedd dyfrol yn methu i gyrraedd targedau llymach yr ardaloedd hyn. Mae’n hanfodol i sefydlu mesurau monitro, lliniaru ac adfywio i amddiffyn iechyd yr afonydd hyn. Drwy fynd i’r afael ag achosion gwaelodol llygredd ffosfforws a mabwysiadau arferion cynaliadwy, gall hygrededd afonydd SAC gael ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Siapio dyfodol cynaliadwy

Wrth symud ymlaen, mae’n hanfodol i greu darlun o’r dyfodol lle mae yna lai o ddibyniaeth ar wrteithwyr carreg ffosffad er mwyn sicrhau cynhyrchu bwyd. Tra eu bod yn cydnabod buddion defnydd synhwyrol o wrtaith, mae rhanddeiliaid yn gynyddol yn nodi y dylai’r ffocws symud tuag at leihau’r defnydd o ffosfforws ac ailgylchu. Mae’r llenyddiaeth ddiweddaraf hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli ffosfforws mewn modd cynaliadwy drwy ddulliau arloesol. Mae strategaethau megis lleihau mewnbynnau ffosfforws, gwneud y mwyaf o ddulliau ailgylchu a gwella llywodraethiant ac arweinyddiaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth geisio defnydd cynaliadwy o ffosfforws.

Mae ffosffadau mewn llygredd adon yn peri bygythiad mawr i iechyd a bioamrywiaeth ardaloedd dyfrol. Mae ymdrechion cydweithredol, megis y cyfarfod ffosffadau yng Nghymru yn dangos yr awch i fynd i’r afael a’r broblem. Drwy ddeall y ffynonellau, yr effeithiau ac opsiynau’r dyfodol ar gyfer lleihau defnydd ffosfforws ynghyd a’i ailgylchu, gallwn weithio tuag at ddyfodol cynaliadwy. Drwy ddulliau cynhwysfawr, gan gynnwys monitro wedi’i dargedu, mesurau lliniaru ac arferion cynaliadwy, gallwn amddiffyn ac adnewyddu iechyd ein hafonydd, gwarchod ecosystemau gwerthfawr, a sicrhau dyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This