Dathlu bwyd a diod Cymru wrth i Gymdeithas Tir Glas Prydain ymweld â Choleg Glynllifon

Gorffennaf 2023 | O’r pridd i’r plât, Sylw

Yn ddiweddar cynhaliodd Coleg Glynllifon ddigwyddiad dathlu oedd yn cynnwys llu o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru, fel rhan o gyfarfod haf blynyddol Cymdeithas Tir Glas Prydain.

Yn ystod eu hymweliad cyntaf â gogledd Cymru ers dros ugain mlynedd, teithiodd cynrychiolwyr i amrywiaeth o ffermydd ar draws y rhanbarth dros gyfnod o dridiau i archwilio agweddau allweddol sy’n effeithio ar y diwydiant, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd cynaliadwy, gwella bioamrywiaeth a thechnoleg, ynghyd ag ysgogi arloesedd a rhannu gwybodaeth.

Fel rhan o’r digwyddiad yng Ngholeg Glynllifon, cafodd llu o gynhyrchwyr bwyd a diod sylw fel rhan o wledd o fwyd lleol i ddathlu, gyda chynnyrch yn cael ei ddarparu gan gynhyrchwyr fel Rhug Organic, Halen Môn, Daffodil Foods, Llaeth y Llan, Sabor de Amor a’r Cwt Caws.

Roedd y busnesau hyn i gyd wedi gweithio gyda Chanolfan Technoleg Bwyd Llangefni trwy gynllun arloesi bwyd Prosiect HELIX, sef chwaer safle Coleg Glynllifon fel rhan o Grŵp ehangach Llandrillo Menai.

Mae Coleg Glynllifon wedi bod yn ddarparwr addysg amaethyddol blaenllaw ers 1954, gyda dau gant o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau amaethyddol llawn amser, gan fanteisio ar adnoddau ar y fferm ac mewn rhannau eraill o’r coleg.

Mae’r digwyddiad yn adeiladu ar ddatblygiadau cadarnhaol diweddar yn ymwneud â bwyd-amaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Mae’r rhain yn cynnwys cyhoeddi buddsoddiad arfaethedig o £16 miliwn mewn Canolfan Economi Wledig yng Ngholeg Glynllifon fel rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru, a dadorchuddio partneriaeth gydag AMRC Cymru gyda’r nod o drawsnewid yr economi wledig drwy ddatblygu sgiliau ac archwilio technolegau newydd ar gyfer y sector bwyd-amaeth.

Wrth siarad am y digwyddiad dywedodd Rhodri Owen, Rheolwr Ffermydd, Coedwigoedd ac Arloesedd yng Ngholeg Glynllifon, “Roedd yn anrhydedd fawr cael croesawu cynrychiolwyr o Gymdeithas Tir Glas Prydain fel rhan o’u hymweliad â’r gogledd. Roedd y digwyddiad cyfan yn llwyddiant ac yn gyfle gwych i ni arddangos rhai o’r prosiectau arloesol sy’n digwydd ar ein safle ar hyn o bryd.

“Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gydag ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ar dreialon sy’n ymwneud â rhoi systemau TechnoGrazing ar waith yng Nghymru. Mae’r treialon yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd ond y gobaith yw y gallent arwain at gynhyrchu mwy o laswellt a mwy o gilogramau o gig yr hectar.”

Wrth siarad am ei falchder o weld cymaint o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn cymryd rhan yn y wledd i ddathlu, ychwanegodd Paul Roberts, Rheolwr Gweithrediadau Strategol Bwyd-Amaeth yn y Ganolfan Technoleg Bwyd, Grŵp Llandrillo Menai, “Roedd yn wych gweld cymaint o gynnyrch lleol o safon uchel yn cael ei arddangos ar gyfer cinio fferm i fforc.

“Mae’n destun balchder mawr bod yr holl gwmnïau sy’n cael eu harddangos wedi derbyn cefnogaeth trwy Brosiect HELIX, a’u bod yn mynd ymlaen i gael llwyddiant mawr. Rydym yn gwbl ymwybodol o’r heriau y mae llawer yn y diwydiant yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac rydym yn ymfalchïo ein bod yn gallu cynnig ystod lawn o gymorth busnes a gwasanaethau technegol i helpu busnesau bwyd a diod i ffynnu a llwyddo.”

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This