Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Academi Amaeth 2023

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi enwau’r 24 o unigolion sydd wedi ennill lle yn Academi Amaeth 2023. Yn ôl y sefydliad mae’r Academi yn gyfle i’r ‘unigolion mwyaf addawol yng nghefn gwlad Cymru’ ennill y cyfle i fynd ar ymweliad tramor i ddysgu ynghylch gweithdrefnau ynghyd a dilyn rhaglen datblygu bersonol wedi ei deilwra iddynt mewn amryw o leoliadau ym Mhrydain.

Lansiwyd yr Academi Amaeth yn 2012 yn wreiddiol, ac mae diddordeb wedi cynyddu er hynny yn ôl Cyswllt Ffermio. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cwrdd am y tro cyntaf ar ddydd Llun 24 Gorffennaf mewn digwyddiad ar faes y Sioe Frenhinol.

Mae modd canfod mwy o wybodaeth ynghylch yr Academi Amaeth 2023 ar wefan Cyswllt Ffermio.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This