Arsyllfa yn y Sioe Frenhinol 2023

Gorffennaf 2023 | Sylw

Mae tîm Arsyllfa yn eich gwahodd i ymuno a ni i drafod ein gwaith yn Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Mercher 26 o Orffennaf rhwng 2yh a 4yh. Bydd aelodau o’n tîm ar lawr cyntaf adeilad Lantra, i drafod yr hyn yr ydym yn ei wneud a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth i ni drio datblygu Arsyllfa i fod yn felin drafod arloesol a blaengar bydd yn edrych ar economi a ffordd o fyw cefn gwlad Cymru.

Mae gwaith wedi dechrau’n barod ar ddatblygu ein platfform a chynyddu ein presenoldeb ar lein fel modd o hwyluso trafodaethau a darparu fforwm lle gall fusnesau, sefydliadau ac unigolion gymryd rhan i drafod yr hyn sy’n angenrheidiol i sicrhau Cymru wledig lewyrchus a llwyddiannus. Yn y misoedd nesa, gobeithiwn dyfu a datblygu ein gwaith drwy barhau i adrodd ar y straeon diweddaraf, comisiynu ymchwil a chynnal digwyddiadau yr ydym yn ffyddiog bydd yn helpu pellhau ac ehangu’r modd y mae materion gwledig yn cael eu trafod. Ein bwriad yw sicrhau fod safbwyntiau rhanddeiliaid yn cael eu clywed yn eglur, ac i ni chwarae rhan mewn meithrin dyfodol disglair i gymunedau cefn gwlad Cymru.

Gobeithiwn wneud hyn drwy ymchwil treiddgar a rhannu argymhellion sy’n bodoli’n barod. Bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar ganfod datrysiadau i broblemau, a helpu i greu dealltwriaeth ehangach o’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael a’r problemau sy’n wynebu Cymru wledig mewn amgylchedd sy’n aml yn heriol. Os yw hyn yn eich taro fel rhywbeth hoffech fod yn rhan ohono, beth am daro draw am sgwrs ar Faes y Sioe.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This