Datrys llygredd ffosfforws mewn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig

Gorffennaf 2023 | O’r afon i’r môr, Sylw

Mae’r afonydd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (Special Areas of Conservation neu SAC) Llywodraeth Cymru yn gartref i ecosystemau hynod amrywiol ac yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau. Eto, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae llygredd ffosfforws yn fygythiad mawr i’r dyfrffyrdd gwerthfawr hyn, gyda dros 60% o afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn methu a chyrraedd targedau lefelau ffosffadau. Wrth ymateb i’r mater brys hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun gweithredu i Gymru er mwyn mynd i’r afael a llygredd ffosfforws, amddiffyn safonau dŵr, ac i sicrhau datblygu cyfrifol. Mae’r erthygl hyn yn amlinellu’r cynlluniau allweddol ar waith yng Nghymru i ddatrys llygredd ffosfforws a sicrhau iechyd ein hafonydd.

 

Llywodraethiant a goruchwyliaeth: gan gydnabod yr angen am ymgyrch gydlynol, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Byrddau Rheoli Maetholion/Partneriaethau Dalgylch, wedi eu cefnogi gan ariannu refeniw, i sicrhau llwyodraethiant a goruchwyliaeth effeithlon. Bydd amcanion eglur a Chynlluniau Rheoli Maetholynnau yn cael eu darparu, gan ganiatáu i bob bwrdd amlinellu eu cynllun ac i dderbyn cyllid digonol. Bydd yna hefyd fframwaith llywodraethu symlach, gan gynnwys y Grŵp Goruchwylio Afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (Special Area of Conservation River Oversight Group neu SACROG), bydd yn darparu cyngor a chyfeiriad strategol.

Datrysiadau naturiol: yn enw darparu llu o fuddiannau ac er mwyn cyd-fynd a deddfwriaeth amgylcheddol, mae Cymru yn hyrwyddo datrysiadau naturiol. Mae’r mentrau hyn yn cynnwys gorfodi’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (Control of Agricultural Pollution neu CoAP Regulations), rhannu gwybodaeth ar brosiectau gwlypdiroedd a rhoi ar waith cynlluniau atal llifogydd sy’n seiliedig ar fyd natur, yn nalgylchoedd afonydd sylweddol. Bydd gwlypdiroedd a adeiladwyd yn cael eu caniatáu hefyd, a bydd ymchwil a gynhelir drwy Blatfform yr Amgylchedd Cymru yn caniatáu rhannu gwybodaeth ac yn llenwi bylchau ymchwil.

Datrysiadau amgylcheddol: mae cydweithio a’r sector amaeth yn allweddol wrth ganfod datrysiadau cynaliadwy i ormodedd o faetholion. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyngor a chefnogaeth i ffermwyr i wella ansawdd dŵr, tra bod grantiau a chynlluniau cyllid yn helpu gwelliannau mewn isadeiledd sy’n gysylltiedig â rheoli maetholion. Mae cynrychiolaeth amaethyddol ar Fyrddau Rheoli Maetholion yn sicrhau cydbwysedd, ac mae partneriaethau gydag undebau ffermwyr a sefydliadau yn hyrwyddo’r arferion gorau wrth gynllunio rheoli maetholion.

Datrys cyfyngiadau cynllunio: mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd sawl cam er mwyn datrys cyfyngiadau cynllunio sy’n gysylltiedig i lygredd ffosfforws. Mae hyfforddi awdurdodau lleol ar Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd (Habitats Regulation Assessment neu HRA) yn sicrhau fod asesiadau’n gywir, tra bod gweithdai astudiaeth achos yn gallu adolygu cynlluniau tai sydd wedi eu gohirio. Bydd arweiniad ymarferol ar Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd a ffosffadau yn cael eu darparu, ac fe fydd grŵp gorchwyl a gorffen yn archwilio opsiynau ar gyfer creu safleoedd trin dŵr preifat dros dro. Bydd trwyddedau gollwng dŵr yn cael eu hadolygu ac fe fydd technolegau arloesol yn cael eu hystyried er mwyn monitro afonydd.

Cyfrifiannell maetholion Cymru gyfan: mae datblygiad cyfrifiannell maetholion dros Gymru gyfan yn flaenoriaeth i helpu penderfyniadau cynllunio ar faterion niwtraliaeth maetholion. Bydd llywodraeth Cymru yn penodi contractwr i greu’r gyfrifiannell, gan sicrhau ei fod yn briodol i’w ddefnyddio gan Awdurdodau Cynllunio Lleol. O gael ei gymeradwyo a’i hyrwyddo bydd y gyfrifiannell yn declyn geith ei fabwysiadu’n eang.

Mesurau lliniaru: er mwyn lleihau llygredd yn effeithlon, bydd rhestr o fesurau lliniaru yn cael ei gyhoeddi, gan ddarparu rhanddeiliaid a gwybodaeth eglur ynghylch pa ymyrraeth sy’n briodol. Gal cydweithredu ar ffurf is-grŵp y Fforwm Rheoli Tir Cymru (Wales Land Management Forum neu WLMF) yn mynd i’r afael a llygredd amaethyddol, gan roi ar waith mesurau o dan y Rheoliadau CoAP.

Cydsyniad crynhoi a masnachu maetholion: mae dull unedig at gydsyniad dalgylch ac archwilio opsiynau masnachu maetholion yn hanfodol. Bydd fframwaith polisi a rheoleiddio sy’n cefnogi dulliau sy’n caniatáu crynhoi yn cael ei amlinellu. Bydd astudiaethau dichonoldeb ar fasnachu maetholion yn cael eu cynnal, a bydd newidiadau rheoliadau yn cael eu hystyried, gan sicrhau rheoli maetholion effeithlon.

 

I grynhoi, mae cynllun cwmpasog llywodraeth Cymru ar lygredd ffosfforws mewn Ardaloedd cadwraeth Arbennig yn dangos ymroddiad i gynnal iechyd ecolegol dyfrffyrdd Cymru a chefnogi datblygu cyfrifol. Drwy lywodraethiant, datrysiadau naturiol, cydweithrediad a’r sector amaeth, mynd i’r afael a chyfyngiadau cynlluniau, datblygu cyfrifiannell maetholion Cymru gyfan, dulliau lliniaru, cydsynio crynhoi ac archwilio marchnata maetholion, mae Cymru yn torri cwys i ddyfodol cynaliadwy ac ansawdd dŵr gwell.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This