NFU Cymru yn codi amheuon ynghylch cynllun plannu coed Llywodraeth Cymru

Gorffennaf 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae NFU Cymru wedi mynegi eu gofidion unwaith yn rhagor ynghylch bwriad Llywodraeth Cymru i gymell ffermwyr i blannu coed ar hyd at 10% o’r tir maent ei eiddo. Mewn datganiad dywedodd NFU Cymru eu bod wedi codi nifer o faterion ynghylch y cynllun, sy’n rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), mewn cyfarfod gyda’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Daeth y cyfarfod yn sgil datganiad y Gweinidog i’r Senedd ar ddydd Mawrth 11 Gorffennaf yn ystod ail gymal proses cyd-gynllunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Dywedodd llywydd NFU Cymru Aled Jones am y cyfarfod:

‘Roedd yn ddefnyddiol cwrdd â’r Gweinidog a’i thîm i drafod y datganiad diweddar mewn mwy o fanylder. Mae NFU Cymru yn parhau i fod yn gefnogol i fframwaith cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr SFS, wedi ei adeiladu o gwmpas haenau cyffredinol, opsiynol a chydweithredol, gyda ffermwyr yn derbyn taliad sylfaenol ar gyfer gweithredu gweithredoedd cyffredinol, cyhyd a bod y gweithredoedd cyffredinol hyn yn ymarferol ac yn gallu cael eu cyflawni gan ffermwyr. Mae ein haelodau yn hynod bryderus i glywed fod Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn fwy ymroddedig nac erioed i’w targed o orchuddio 10% o’r tir a choed mewn ardaloedd y penderfyna fod yn addas ar gyfer plannu coed o dan haen gyffredinol y cynllun arfaethedig.’

Cododd Jones y ffaith ei fod wedi siarad â nifer o aelodau’r undeb yn ddiweddar a’i bod hwythau yn hynod ofidus ynghylch yr hyn yr oeddent wedi ei glywed yn y datganiad. Dywedodd fod yna beth arwyddion cadarnhaol yn y ffaith fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod yna wahanol fathau o dir ac o ddeiliadaeth dros dir nad ydynt yn caniatáu plannu coed yn y dull mae’r Llywodraeth eisiau. Eto mae hyn ei dro yn bosib o arwain at sefyllfa lle mae mwy o bwysau ar ffermwyr eraill sydd â thir mwy addas i blannu coed ar eu tir hwythau er mwyn cyrraedd y targed ac y bydd hyn yn cael effaith faint o dir cynhyrchiol sydd i’w gael i gynhyrchu bwyd.

Bydd NFU Cymru yn cynnal seminar gyda’r Gweinidog Lesley Griffiths ar eu stondin yn y Sioe yn Llanelwedd ar ddydd Mawrth 25 Gorffennaf am 11yb. Mae modd canfod datganiad llawn NFU Cymru a mwy o fanylion am y digwyddiad drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This