Melin drafod yn Sir Gaerfyrddin i feithrin diwylliant entrepreneuraidd

Gorffennaf 2019 | Polisi gwledig, Sylw

Mae arbenigwyr economaidd blaenllaw o bob rhan o Gymru wedi cyhoeddi cynlluniau i lansio prosiect sylweddol dros ddwy flynedd fydd yn canolbwyntio ar feithrin diwylliant entrepreneuraidd Sir Gaerfyrddin.

Yn y cyfnod cychwynnol, ffocws penodol melin drafod yr ‘Arsyllfa: Observatory’ fydd canfod ffyrdd y gellir ategu gwaith nifer o gyrff sydd ar hyn o bryd yn cyflenwi cymorth gan gynyddu syniadau ac arloesi o’r sector preifat ac ymgysylltu ehangach â’r gymuned.

Mae’r gweithgor, sy’n rhoi eu hamser yn ddi-dâl, yn dod â phum arbenigwr blaenllaw mewn adfywio economaidd gwledig at ei gilydd. Mae gan y pump brofiad yn arwain rhai o’r cyrff datblygu economaidd mwyaf adnabyddus yng Nghymru, gan gynnwys Cyllid Cymru, Menter Môn, Antur Teifi a Menter a Busnes.

Cynhaliodd y grŵp ymgynghorol eu cyfarfod cyntaf y mis hwn i drafod cynlluniau ar gyfer y cyfnod cychwynnol. Y cadeirydd yw cyn-bennaeth Antur Teifi ac Is-adran Bwyd-Amaeth Asiantaeth Datblygu Cymru, Wynfford James, a’r aelodau eraill yw Siân Lloyd Jones, Hywel Evans a Gerallt Llywelyn Jones. Bydd Jon Parker o gwmni ymgynghori CamNesa hefyd yn gweithio’n agos gyda’r grŵp.

Wrth egluro pam y penderfynodd ei gwmni o Gaerfyrddin, Sgema, ffurfio’r grŵp ymgynghorol, dywedodd Wynfford James: “Gan fod effaith llawn Brexit yn dal i fod yn aneglur, fel y mae rôl Sir Gaerfyrddin ym menter newydd y ddinas-ranbarth, roeddem ni’n teimlo ei bod yn amserol lansio prosiect gan gyfuno ein harbenigedd i weld sut y gallai syniadau ffres helpu i greu amgylchedd sy’n caniatáu i ddiwylliant entrepreneuraidd ffynnu ac ateb gofynion newidiol cymunedau gwledig.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, gyda’r asiantaeth gyfathrebu integredig blaenllaw Four Cymru yn cynnal a rheoli ysgrifenyddiaeth y gweithgor.

Nododd cyfarwyddwr cyswllt Four Cymru a rheolwr y prosiect ‘Arsyllfa: Observatory’, Rhys Flowers: “Fel rhywun sy’n lleol i Sir Gaerfyrddin gallaf weld y potensial enfawr sy’n bodoli ar hyn o bryd a byddwn yn annog busnesau yn y sector preifat ac unigolion sy’n awyddus i gymryd rhan yn y prosiect i gysylltu â ni i helpu i ddatblygu ein syniadau ymhellach.”

Nod cam cychwynnol y prosiect fydd creu fframwaith a threfniant i ddatblygu amgylchedd sy’n cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd entrepreneuraidd o fewn yr ardal a phrofi syniadau newydd. Mewn cytundeb â phartneriaid lleol, gallai syniadau newydd gael eu cyflwyno gan chwaraewyr preifat a chyhoeddus sydd eisoes yn ymwneud â datblygu busnes ac entrepreneuraidd.

Ychwanegodd cyn-bennaeth Cyllid Cymru, ac aelod o’r grŵp ymgynghorol, Sian Lloyd Jones: “Ein nod yw meddwl am syniadau newydd drwy nifer o astudiaethau gorchwyl a gorffen cyn gweithio gyda phartneriaid lleol o’r sector preifat a chyhoeddus i’w cyflawni. Fyddwn ni ddim yn awyddus i ddyblygu unrhyw waith sy’n digwydd eisoes ond yn hytrach byddwn am ganfod bylchau a manteisio ar unrhyw gyfleoedd i gydweithio ymhellach. Mae hyn yn ymddangos yn fwyfwy hanfodol o fewn cyd-destun rôl Sir Gaerfyrddin ym model y ddinas-ranbarth.”

Bydd y grŵp yn cyfarfod eto’n fuan i gytuno ar gynllun gwaith ar gyfer y misoedd nesaf yn ogystal â chyfarfod â darparwyr allweddol ym maes rhaglenni entrepreneuraidd, sy’n cynnwys sefydliadau addysgol, i weld sut y gellir meithrin entrepreneuriaeth ac arloesi.

I ddysgu rhagor am y prosiect cysylltwch â Wynfford James yn arsyllfa@four.cymru

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This