NFU Cymru yn mynegi gofid am ddyfodol y diwydiant llaeth yng Nghymru

Hydref 2023 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Gyda’r diwydiant llaeth yn dod ynghyd yn Sioe Laeth Cymru, mae NFU Cymru wedi dweud fod ffermwyr llaeth yn wynebu ‘storm berffaith’ o ganlyniad i ostyngiad mewn prisiau llaeth, cynnydd mewn costau ac ansicrwydd ynghylch dyfodol cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl NFU Cymru mae amodau’r farchnad wedi achosi prisiau llaeth i ostwng oddeutu 30% ar gyfartaledd ers dechrau’r flwyddyn, gyda’r pris y mae ffermwyr yn derbyn am litr o laeth wedi gostwng 15c o’i gymharu â’r pris yr oeddent yn derbyn adeg Nadolig llynedd. Mae hyn wedi cyd-fynd a chynnydd sylweddol mewn costau mewnbynnau i’r diwydiant megis porthiant a gwrtaith, ac er bod y costau hynny wedi gostwng, maent dal i fod ar lefel hanesyddol o uchel. Canlyniad hyn yw bod nifer o ffermwyr yn wynebu cynhyrchu llaeth ar golled.

Mae NFU Cymru hefyd yn crybwyll fod ansicrwydd ynghylch dyfodol rhaglenni cymorth i ffermwyr sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru yn ffactor sy’n peri gofid. Yn benodol maent yn cyfeirio at y bwriad o osod targedau plannu coed ar ffermydd yn enw ymladd newid hinsawdd fel un allai gyfyngu gallu ffermwyr llaeth i gynhyrchu a’u gorfodi i ddewis rhwng ymuno a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a pharhau i gynhyrchu llaeth fel y maent wedi arfer. Nodir hefyd fod baich cydsynio a rheoliadau fwyfwy llym a chysgod effaith TB ar gadw buchesi iach yn ffactorau pryder amlwg na ddylid eu hanwybyddu.

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones:

‘Mae ffermwyr llaeth Cymru yn wynebu storm berffaith; mae’r diwydiant yn ymddangos fel ei fod yn rhedeg ar danwydd ‘gobeithio wellith pethau’ a mae’r tanc yn y coch. Nid dyma’r ffordd i redeg diwydiant. Ymddengys fod rhannau eraill o’r gadwyn cyflenwi yn trosglwyddo eu colledion i’r cynhyrchwyr cynradd ac unwaith eto y ffermwyr yw’r rhai sy’n cario’r faich anheg o’r risgiau sy’n dyfod wrth gynyrchu’r nwydd naturiol, iach a chynaliadwy hwn.’

Gallwch ddarllen mwy am sylwadau Aled Jones ac am ofidion NFU Cymru am ddyfodol y diwydiant llaeth drwy ymweld a gwefan NFU Cymru.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This