Tyfu te ym Mhowys fel rhan o gynllun Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio

Hydref 2023 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae astudiaeth newydd wedi ei ariannu gan Cyswllt Ffermio yn edrych ar os gellid tyfu te yn llwyddiannus ar ffermydd mynydd Cymru. Er bod te yn cael ei dyfu’n llwyddiannus mewn sawl man yn y DG, mae’r cnwd yn un sy’n cael ei ystyried fel un anodd i dyfu yma oherwydd yr amodau hinsawdd.

Mae Mandy Lloyd am ddefnyddio tir ar Cleobury Farm ger Trefyclo i dyfu’r cnwd ar raddfa eang am y tro cyntaf ar fferm fynydd ym Mhrydain. Gan fod mathau amrywiol o dir ar y fferm, mae Mandy wedi penderfynu plannu cant a deugain o lwyni te Camelia sinensis mewn ardaloedd gwahanol er mwyn dysgu pa ardaloedd maent fwyaf llewyrchus. Drwy ddilyn proses o’r enw dadansoddi geo-ofodol, gan asesu cysondeb ac ansawdd y cnwd a gynhyrchir, safon y tir y mae’r cnwd yn cael ei blannu ynddo, ffactorau hinsawdd eraill megis mesuriadau golau a glaw, ynghyd a mesuriadau tyfiant y llwyni sy’n tyfu gellid ennill darlun manwl o’r amodau sydd orau i’r planhigion te.

Dywedodd Mandy Lloyd:

‘Rydym yn ceisio arallgyfeirio cnydau gyda’r nod o wella proffidioldeb yn ein busnes amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd, gwella amrywiaeth a chynhyrchu cnwd o safon uchel yn yr hirdymor.’

‘Mae angen cadwyn gyflenwi bwyd a diod leol sy’n gyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol, gan ddarparu cynnyrch maethlon, hirdymor i brynwyr.’

‘Mae cadw elw’n lleol yn dod â buddion ehangach, gydag economi leol lewyrchus a mwy o wariant, gan arwain at fwy o gyflenwad a chyfleoedd swyddi pellach, gan greu cymunedau cydlynol.’

Mae’r Cyllid Arbrofi gan Cyswllt Ffermio yn cynnig hyd at £5000 tuag at brosiectau sy’n gweithredu syniadau arloesol ar ffermydd Cymru. I ddysgu mwy am y prosiect, ewch i wefan Cyswllt Ffermio.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This