NFU Cymru yn rhyddhau maniffesto Etholiad Cyffredinol

Mehefin 2024 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Big Ben, London

Mae NFU Cymru wedi cyhoeddi eu maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol San Steffan 2024. Mae’r maniffesto yn amlinellu blaenoriaethau’r undeb a gofynion penodol i bwy bynnag y bydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf y Deyrnas Gyfunol i ymrwymo i sicrhau cefnogaeth i ffermwyr a chymunedau gwledig yng Nghymru.

Er bod amaeth yn faes datganoledig, mae’r NFU yn nodi fod yr arian sydd ar gael i amaeth yng Nghymru yn cael ei benderfynu yn anuniongyrchol gan benderfyniadau cyllideb y Trysorlys yn Llundain. Maent yn amlinellu tair blaenoriaeth i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i’w hystyried er mwyn sicrhau cyllideb ddigonol i amaeth yng Nghymru.

Yn gyntaf, maent yn gofyn i Lywodraeth y DG ddarparu cyllideb cefnogaeth amaethyddol sefydlog fydd yn para hyd nes yr etholiad cyffredinol nesaf.

Yn ail gofynnant i Lywodraeth y DG ymrwymo i edrych o’r newydd ar y dosbarthiad cyllidebol sy’n cael ei ddarparu i amaethwyr y DG er mwyn adfywio’i werth yn dilyn chwyddiant diweddar.

Yn drydydd maent yn nodi fod angen cyllideb flynyddol o dros £500m ar ffermio yng Nghymru i sicrhau fod modd cyrraedd amcanion y diwydiant yn nhermau cynhyrchu bwyd, sicrhau dyfodol byd natur a lleihau effaith ar yr hinsawdd

Mae modd canfod mwy o wybodaeth, a darllen y maniffesto yn ei gyfanrwydd, ar wefan yr NFU.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This