Parc Cenedlaethol Eryri yn cyhoeddi cyfle hyfforddi i fod yn arbenigwr cadwraeth

Ionawr 2024 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi cyfle i unigolyn ennill swydd yn arbenigo ar gadwraeth adeiladau hanesyddol.

Yn ôl Awdurdod y Parc mae yna oddeutu 2000 o adeiladau rhestredig yn sefyll oddi fewn i ffiniau’r parc, ac maent yn eu gweld fel rhan annatod nid yn unig o dirlun Eryri ond hefyd ei diwylliant. Mae dyletswydd statudol ar yr Awdurdod i warchod a gwella’r adeiladau yma ac mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni drwy’r broses gynllunio ac ymgysylltu a’r gymuned.

Bydd y swydd yn para pedair blynedd, ac mae’r posibilrwydd y gellid gwneud y swydd yn un barhaol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn treulio dwy flynedd yn dilyn cwrs gradd meistr mewn Cadwraeth Adeiledig tra hefyd yn gweithio rhan amser gyda Gwasanaeth Cynllunio a Datblygu’r parc. Bydd Awdurdod y Parc yn talu ffi’r cwrs meistr ynghyd a chostau teithio i fynychu’r Brifysgol.

Dywedodd Iona Roberts, Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio a Datblygu Parc Cenedlaethol Eryri:

‘Rydym yn hynod falch o allu cynnig y cyfle arbennig ac unigryw yma i rywun sydd am gychwyn gyrfa yn y maes adeiladau hanesyddol mewn Parc Cenedlaethol. Mae prinder cyffredinol o Swyddogion Cadwraeth Adeiledig, ond yn arbennig rhai sy’n medru’r Gymraeg, ac felly mae penodi yn gallu bod yn heriol. Yn ogystal â rhoi cyfle i unigolyn brwdfrydig gael cychwyn ar yrfa broffesiynol dda a sefydlog, bydd y cynllun yma hefyd yn helpu i ehangu’r pŵl o arbenigwyr cynllunio sy’n gallu darparu gwasanaeth i’r cyhoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.’

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Chwefror 2024. Am fanylion pellach ynghylch yr hyn sydd angen i gymhwyso ar gyfer y rôl a sut i wneud cais, dilynwch y ddolen hon i wefan Parc Cenedlaethol Eryri neu cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This