Llywodraeth Cymru yn lansio Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024

Ionawr 2024 | Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

girl in orange jacket

Mewn ymgais i fynd i’r afael a’r her barhaol o dlodi plant yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu eu cynllun Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024. Mae’r strategaeth hon, sydd wedi ei datblygu fel ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus eang, yn gosod cynllun ar gyfer y ddegawd nesaf a thu hwnt, gyda’r amcan o waredu tlodi plant a’i sgil effeithiau mwyaf dyrys ar draws Cymru. Gyda golwg benodol ar integreiddio polisïau cenedlaethol a hybu cydweithrediad ar lefelau rhanbarthol a lleol, mae’r strategaeth yn dangos ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau dyfodol tecach i holl blant a phobl ifanc Cymru, beth bynnag eu cefndiroedd neu amgylchiadau.

Amlinellir prif bwyntiau’r strategaeth isod:

Trosolwg:

  • Mae’r strategaeth yn adlewyrchu adborth o broses ymgynghori ac yn unioni amcanion hir dymor Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael a thlodi plant.
  • Mae’n canolbwyntio ar integreiddio polisïau cenedlaethol a chydweithio ar lefelau rhanbarthol a lleol.
  • Nid yw’r strategaeth yn sefyll ar ei phen ei hun; mae’n cyd-gysylltu ag amrywiaeth o ddyletswyddau deddfwriaethol ac yn dylanwadu ar bolisïau ar draws y llywodraeth.

Amcanion hir dymor:

  • Lleihau costau teuluol a gwneud y mwyaf o incwm.
  • Creu llwybrau allan o dlodi
  • Cefnogi lles plant a theuluoedd.
  • Sicrhau urddas a pharch.
  • Hyrwyddo cydweithrediad ar draws y llywodraeth.

Blaenoriaethau gweithredu:

  • Hawlogaeth: Sicrhau cymorth ariannol.
  • Creu cenedl Gwaith Teg.
  • Adeiladu cymunedau sydd â gwasanaethau hygyrch.
  • Cynhwysiant mewn gwasanaethau.
  • Caniatáu cydweithrediad ar lefel rhanbarthol a lleol.

Addewidion penodol:

  • Sefydlu system budd-dal Cymreig sy’n canolbwyntio ar hygyrchedd a thrugaredd.
  • Hyrwyddo’r Cyflog Byw Gwirioneddol a gwaredu rhwystrau cyflogaeth i grwpiau dan anfantais.
  • Canolbwyntio ar ofal plant fforddiadwy a datrysiadau trafnidiaeth.
  • Cefnogi gwasanaethau wedi eu lleoli yn y gymuned ac ysgolion fel hybiau cymunedol.
  • Dilyn trywydd hawliau plant yn unol â’r CCUHP.

Diffinio a mesur tlodi plant:

  • Mae’r strategaeth yn cynnal diffiniad 2011 o dlodi plant.
  • Mae’n canolbwyntio ar dlodi incwm cymharol, gan danlinellu fod 28% o blant yng Nghymru yn byw o dan y trothwy tlodi o edrych ar ffigurau 2020-2022.

Croestoriadedd ac impact:

  • Mae’r strategaeth yn cydnabod croestoriadedd anfantais sosio-economaidd a nodweddion gwarchodedig.
  • Mae’n tanlinellu’r effaith ddyrys y mae tlodi yn ei gael ar iechyd, lefelau cyrhaeddiant mewn addysg a’r cynnydd mewn risg o gam-drin ac esgeuluso.

Cydweithio ac ymgysylltu:

  • Mae pwyslais cryf yn cael ei roi ar gydweithio ar draws sectorau’r llywodraeth a gyda phartneriaid yn y trydydd sector a’r sector gyhoeddus.
  • Mae’r strategaeth yn cynnwys ymgysylltu cyhoeddus, gan gynnwys adborth o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi.

Tlodi gwledig:

  • Am y tro cyntaf, mae’r strategaeth yn cydnabod yr heriau sy’n effeithio cymunedau gwledig yn benodol, megis pellter oddi wrth wasanaethau, cyfleoedd swyddi cyfyngedig, costau byw uwch ac unigrwydd cymdeithasol.

Monitro ac adrodd:

  • Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro ac adrodd ar effaith yr adroddiad, gydag adroddiad cynnydd wedi ei gynllunio ar gyfer Rhagfyr 2025, nid oes unrhyw dargedau penodol.

I grynhoi, mae’r strategaeth yn cynnig dull o fynd i’r afael a thlodi plant yng Nghymru sy’n pwysleisio pwysigrwydd gweithredu mewn sawl modd ac sy’n hyrwyddo cydweithrediad. Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This