Senedd Cymru yn bwrw golwg ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru

Ionawr 2024 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Heddiw ar 24 Ionawr 2024 bydd Senedd Cymru yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar weithlu’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

I gyd-fynd a’r drafodaeth yn y Siambr mae adran Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl yn edrych ar rhai o’r ffigurau a’r ffactorau sy’n greiddiol i ddeall y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r diwydiannau creadigol yn werth mwy na 5% o GDP Cymru ac yn tyfu’n gynt na’r economi ehangach ers y pandemig. Eto yn ôl Robin Wilkinson, awdur yr erthygl, mae’r llwyddiant cymharol hwn sydd wedi ei ysgogi gan ffyniant y cyfryngau ffilm a theledu yng Nghymru yn bodoli mewn cyd-destun o sector gelfyddydau ehangach sy’n wynebu problemau ariannol dyrys.

Yn eu hadroddiad diweddar a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023, mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod twf yn y diwydiant yn gynaliadwy ac yn fwy teg, gan gynnig cymorth i’r ardaloedd hynny o’r diwydiant sy’n wynebu heriau.

Yn ôl erthygl Ymchwil y Senedd mae’r heriau hyn yn cynnwys:

  • Diffyg twf yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru
  • Diffyg elw lleoliadau celfyddydol llai
  • Chwyddiant yn cael effaith ar gostau a chadwyni cyflenwi
  • Presenoldeb is mewn digwyddiadau celfyddydol yn sgil y pandemig
  • Heriau yn dilyn twf cyflym y sector cynhyrchu ar gyfer y sgrin
  • Diffyg gweithlu ar gyfer cyflenwi swyddi yn dilyn twf y diwydiant ffilm a theledu

I ddarllen yr erthygl yn ei gyfanrwydd, ac i ddysgu mwy am waith y pwyllgor a mwy am gyd-destun y diwydiant creadigol ehangach, dilynwch y ddolen hon i wefan Senedd Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This