Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi buddsoddiad sylweddol mewn ymchwil i drawsnewid defnydd tir

Ionawr 2024 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod yn rhan o gonsortiwm arbenigol newydd bydd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru a llywodraethau eraill y DU wrth edrych ar allyriadau carbon sy’n deillio o ddefnydd gwahanol o dir.

Mae aelodau staff o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan ym mhrosiect ‘Defnydd Tir ar gyfer Sero Net’ (LUNZ) sy’n cael ei arwain ar y cyd gan Sefydliad James Hutton a Phrifysgol Caerlŷr. Mae’r consortiwm wedi derbyn £6.25 miliwn o gyllid gan Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Gyfunol i wneud y gwaith.

Un o brif amcanion yr ymchwil yw edrych ar y modd y mae defnydd o’r tir, a’r modd y gellid ei ddefnyddio fel ‘sinc’ neu ffynhonnell ar gyfer carbon, yn effeithio allyriadau. Bydd sylw penodol yn cael ei roi ar sgil effeithiau amaethyddiaeth, sy’n gallu cael effaith mawr ar nwyon tŷ gwydr, a sut y gellid canfod atebion yn seiliedig ar wyddoniaeth i ddatrys hyn.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:

‘Mae hwn yn fuddsoddiad mawr mewn gwaith hanfodol i gefnogi trosglwyddo’n gyfiawn i sero net, ac rydyn ni’n falch o allu cyfrannu ein harbenigedd.. Ein nod fel consortiwm yw trawsnewid defnydd tir, systemau amaethyddol ac iechyd pridd. Bydd cyflawni’r trawsnewid mewn rheolaeth tir sydd ei angen yn dibynnu ar fynediad y llywodraeth i ymchwil ac arloesi o’r radd flaenaf. Ar y cyd â phartneriaid eraill, byddwn yn datblygu llwybrau credadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyrraedd Sero Net; wedi’u hamseru a’u teilwra i ddiwallu anghenion y llywodraeth a’r sector. Ein gweledigaeth ar gyfer y ganolfan newydd yw un sy’n gynhwysol ac yn gweithio i’r pedair gwlad ac sy’n dadansoddi, cydgasglu a chyfleu tystiolaeth i gefnogi llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill.’

‘Bydd ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu gyda’r sgiliau, yr arbenigedd a’r adnoddau sydd gennym ni yn Aberystwyth a’r partneriaid eraill. Bydd yn cael ei adeiladu ar egwyddorion adeiladu capasiti a throsglwyddo cyfiawn. Bydd yn uno ac yn cyflymu tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o brosiectau ymchwil y consortiwm ac ymchwil allweddol gysylltiedig i lywio polisi ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ym mhedair gwlad y Deyrnas Gyfunol.’

Dywedodd cyd-arweinydd Canolfan y Consortiwm buddugol, yr Athro Lee-Ann Sutherland o Sefydliad James Hutton:

‘Mae’r wyddoniaeth y tu ôl i ddefnydd tir yn hynod gymhleth. Mae ystod o ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn dylanwadu arno, ac yn cael ei gymhlethu ymhellach gan sylfaen dystiolaeth newidiol, grymoedd marchnad newydd, ymddangosiad data a modelau newydd, a thechnolegau dyfeisgar megis deallusrwydd artiffisial. Ein nod yw pontio’r bwlch rhwng ymchwilwyr a llunwyr polisi a bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion llunwyr polisi penodol, gan roi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn y fformat a’r amserlen sydd ei hangen arnyn nhw.’

‘Mae ein Consortiwm wedi datblygu cyfres o fecanweithiau arloesol i wneud hynny – Canolfan Polisi Ystwyth, Platfform Net Zero Futures, a Labordy Dulliau Creadigol – pob un wedi’i deilwra i gynhyrchu atebion clir a chadarn i gwestiynau brys.’

Ychwanegodd Cyd-arweinydd y Ganolfan, yr Athro Heiko Balzter o Brifysgol Caerlŷr:

‘Dim ond trwy gynnwys ystod eang o randdeiliaid drwy gydol y broses y gellir creu llwybr teg, realistig tuag at sero net yn y sector defnydd tir – i ddarparu eu harbenigedd, rhannu gwaith y Ganolfan a sicrhau bod ei gynigion yn gweithio’n ymarferol yn ogystal ag yn ddamcaniaethol.’

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This