Pwyllgor Materion Cymreig i glywed tystiolaeth am effaith ail gartrefi ar yr iaith Gymraeg

Ionawr 2024 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Bydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn cynnal sesiwn i glywed tystiolaeth gan amrywiaeth o arbenigwyr ynghylch y cwestiynau ynghylch os yw’r cynnydd mewn ail gartrefi yng Nghymru yn cael effaith ar yr iaith Gymraeg. Mae’r sesiwn yn rhan o ymchwiliad ehangach y Pwyllgor i newidiadau poblogaeth yng Nghymru.

Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 24 Ionawr am 10:00yb ac fe all y rheini a diddordeb ddilyn yr hyn sydd yn cael ei ddweud ar wefan ffrydio’r Senedd, Parliament TV.

Bydd dau banel yn cymryd rhan yn y sesiwn. Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar drafod presenoldeb ail gartrefi mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, ac effaith hyn a lefelau uchel o fewnfudo ar gymunedau ac economïau lleol.

Bydd yr ail banel yn edrych ar sut mae gwasanaethau lleol, gan gynnwys sut y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cael effaith ar newid poblogaeth.

Y tystion:

O 10.00:

  • Mark Harris, Cynghorydd Cynllunio a Pholisi Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi
  • Barry Rees MBE, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Sir Ceredigion
  • Ifan Glyn, Cyfarwyddwr Cymru, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr

O 11.00:

  • Ellie Fry, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Paul Jones, Cyfarwyddwr Strategol: yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Cyngor Dinas Casnewydd
  • Aaron Hill, Cyfarwyddwr, Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr Cymru

Gallwch ddysgu mwy am waith y Pwyllgor drwy ddilyn y ddolen hon i’w gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This