Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cyhoeddi eu hadroddiad terfynol

Ionawr 2024 | Sylw

Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol sy’n amlinellu amryw o gamau cyfansoddiadol y dylid eu cymryd i ddatganoli grymoedd pellach i Gymru.

Cadeiriwyd y comisiwn gan Yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, cafodd eu penodi ynghyd a nifer o arbenigwyr o ar draws wahanol ddisgyblaethau a meysydd polisi i archwilio’r gwahanol bosibiliadau sydd yn bodoli i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Daw’r adroddiad yn dilyn sgwrs genedlaethol a gynhaliwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, lle ymgynghorwyd yn eang er mwyn gweld beth oedd barn pobl Cymru am y setliad datganoli presennol, a lle gellid datblygu hyn yn y dyfodol.

Cynhaliwyd arolygon barn a sioeau teithiol er mwyn casglu tystiolaeth o farn y bobl, ac fe gysylltwyd â miloedd o ddinasyddion Cymru er mwyn cyflawni’r dasg o ddeall beth oedd eu barn ar y setliad datganoli.

Ynghyd a’r prif adroddiad, mae yna nifer o ddogfennau ac adroddiadau eraill wedi eu cynnwys megis adroddiadau unigol gan grwpiau o arbenigwyr yn edrych ar feysydd polisi penodol.

Mae’r cyhoeddiadau yn cynnwys:

Mae’r canfyddiadau yn sicr o gymell llawer o drafodaethau ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Cadwch olwg ar Arsyllfa i glywed y diweddaraf ar sut y gall hyn effeithio cefn gwlad Cymru a’r economi wledig.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This