NFU Cymru yn cyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Ionawr 2024 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae NFU Cymru wedi cyhoeddi eu bod am gynnal sioe deithiol o amgylch Cymru er mwyn trafod proses ymgynghori Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd y naw digwyddiad ar draws Cymru yn cael eu noddi gan Fanc Barclays, ac yn rhan o ymrwymiad NFU Cymru i gysylltu â rhanddeiliad yn y diwydiant amaeth i sicrhau llais ffermwyr yn y broses ymgynghori.

Bydd aelodau o dîm polisi NFU Cymru, ynghyd a chynrychiolwyr etholedig yr undeb, yn mynychu’r digwyddiadau ac yn darparu trosolwg manwl o’r ymgynghoriad a goblygiadau’r cynlluniau arfaethedig i’r diwydiant amaeth yng Nghymru. Y nod yw sicrhau fod ffermwyr a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn ymateb yn effeithiol i’r cynlluniau.

Bydd y digwyddiadau yn canolbwyntio ar fframwaith y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, cymhwyso ar gyfer y cynllun, rheolau’r cynllun, methodoleg y taliadau a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i reoli’r symud o Gynllun y Taliad Sylfaenol i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o 2025 ymlaen. Bydd sylw yn cael ei roi hefyd i rai o ofidion yr undeb ynghylch y cynlluniau arfaethedig, gyda golwg benodol ar y bwriad i orfodi 10% o dir amaethyddol gael ei roi i blannu coed fel rhan o’r cynllun.

Bydd y sioe deithiol yn ymweld â’r lleoliadau canlynol:

  • Dydd Llun 29 Ionawr – Marchnad Da Byw Y Trallwng – 2yh
  • Dydd Llun 29 Ionawr – Clwb Rygbi Rhutin – 7:30yh
  • Dydd Mawrth 30 Ionawr – Gwesty Nant yr Odyn, Ynys Môn – 2yh
  • Dydd Mawrth 30 Ionawr – Clwb Pêl Droed Porthmadog – 7:30yh
  • Dydd Mercher 31 Ionawr – Marchnad Da Byw Aberhonddu – 7:30yh
  • Dydd Iau 1 Chwefror – Clwb Golg Grove, Porthcawl – 2yh
  • Dydd Llun 5 Chwefror – Clwb Rydbi Aberystwyth – 2yh
  • Dydd Llun 5 Chwefror – Plas Hyfryd, Narberth, 7:30yh
  • Dydd Mercher 7 Chwfror – Swyddfa NFU Cymru, Maes y Sioe, Llanelwedd – 11yb

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr ymgynghoriad ac ymateb yr NFU i’r cynlluniau, ewch i wefan NFU Cymru.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This