Rhaglen ARFOR yn cynnal gweithdy gofodau Cymraeg

Ionawr 2024 | Arfor, Sylw

Mae rheolwyr Rhaglen ARFOR wedi cyhoeddi eu bod am gynnal gweithdy er mwyn trafod creu gofodau Cymraeg yn y gweithle. Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal ar ffurf gweminar, ac mae’r trefnwyr yn eiddgar i’r rheini sydd â diddordeb ym mherthynas yr iaith a’r byd gwaith i fynychu.

Nod y sesiwn yw helpu i annog dealltwriaeth o sut i gynyddu gwelededd y Gymraeg yng ngweithleoedd rhanbarth ARFOR.

Bydd y sesiwn yn dechrau drwy roi amlinelliad bras o gefndir prosiect ARFOR, cyn symud ymlaen i edrych ar yr ymchwil sy’n bodoli ar fuddion defnyddio ac amlygu’r Gymraeg yn y gweithle. Wedyn bydd trafodaeth ynghylch sut yn union gall unigolion rhoi’r Gymraeg ‘ar waith’ yn eu mannau gwaith, bydd hefyd yn rhoi trosolwg o rhai o’r adnoddau cymorth sydd ar gael er mwyn cyflawni hyn.

Bydd y gweminar yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth 23ain o Ionawr rhwng 2 a 3:30yh drwy gyfrwng y Gymraeg. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, dilynwch y ddolen hon i’r dudalen Eventbrite.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This