Rhaglen hyfforddi amaethyddol newydd ar gyfer pobl ifanc Powys yn cael ei lansio gan Lantra Cymru

Ionawr 2024 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Lantra Cymru wedi dechrau’r flwyddyn newydd drwy gyhoeddi eu bod yn lansio rhaglen hyfforddi newydd. Y nod yw rhoi cyfle arbennig i bobl ifanc nad ydynt yn dod o gefndiroedd ffermio i gael y cyfle i fynychu amrywiaeth o gyrsiau amaethyddol a garddwriaethol am ddim.

Enw’r rhaglen yw AgriStart ac mae cyfle i rheini sydd yn byw ym Mhowys ac sydd rhwng 16 a 28 oed i gael mynediad at amrywiaeth helaeth o gyrsiau hyfforddi yn rhad ac am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau megis Iechyd a Diogelwch, Gyrru Tractor a Thrin Da Byw, ac yn gyrsiau sydd wedi eu teilwra’n arbennig i roi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i ddechrau yn y diwydiant amaeth. Gall myfyrwyr gymryd rhan yn y cyrsiau wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Dywedodd Sarah Lewis, Dirprwy Gyfarwyddwr Lantra Cymru:

‘Mae gan AgriStart y potensial i gefnogi’r rhai sy’n angerddol am ddyfodol mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth trwy gefnogi eu hanghenion hyfforddi. Ein gobaith yw y bydd hyn yn sicrhau bywiogrwydd y sector am flynyddoedd i ddod. Byddwn yn annog unrhyw berson ifanc sydd â diddordeb i achub ar y cyfle hwn trwy ddysgu mwy yn wales.lantra.co.uk/cy/agristart neu gysylltu â ni ar wales@lantra.co.uk.’

Lantra Cymru sy’n rhedeg y prosiect, ac mae’r gwaith yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Powys a’i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae Lantra yn un o brif gyrff dyfarnu ar gyfer hyfforddiant yn y maes amaethyddol yn y DU, ac wedi bod yn gweithio i ddarparu cymwysterau i rheini yn y diwydiant ers dros 40 mlynedd.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Powys dros Bowys Fwy Ffyniannus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys:

‘Un o’r heriau allweddol sy’n wynebu Powys yw poblogaeth sy’n heneiddio, yn enwedig yn y sector amaethyddol. Mae’r prosiect hwn yn gam hanfodol wrth baratoi unigolion ifanc gyda’r sgiliau a’r ardystiadau cywir, gan annog gweithlu ifanc a deinamig yn y sector. Ein nod yw sicrhau bod dysgwyr yn cael profiad hyfforddi cadarnhaol a dylanwadol, fydd yn eu rhoi ar lwybr i ddatblygiad proffesiynol parhaus a gyrfa foddhaus mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth.’

I ddysgu mwy am y prosiect dilynwch y ddolen hon i wefan Lantra Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This