Twristiaeth a’r iaith yng Ngwynedd

by Tach 11, 2020Arfor, Featured CY

Gan Dr Dyfan Powell, Wavehill

Dyma flog arall mewn cyfres o dair fydd yn craffu ar y cyswllt rhwng sectorau penodol o’r economi a’r Gymraeg yng Ngwynedd. Y diwydiant twristiaeth yw testun y blog yma. Mae’r sector yn un sydd wedi cynhyrfu a sbarduno trafodaethau diddorol yn ddiweddar, yn enwedig yn sgil argyfwng COVID-19.

Ugain mlynedd yn ôl, fe daflodd ymchwil Phillips oleuni ar dŵf cyflogaeth yn y sector a’r cannoedd ar filoedd oedd yn cael eu cyflogi erbyn diwedd y 1990au.[1] Fe gododd gwestiynau ynghylch cost ac effaith hir dymor ffyniant sector o’r fath yn yr ardal. Cyflwynodd dystiolaeth ynglŷn a’r cyswllt rhwng twristiaeth a mewnfudo, gan gyfeirio at astudiaethau a ganfu fod hanner y bobl a oedd wedi symud i ardaloedd fel Llandudno wedi ymweld â’r ardal fel twristiaid cyn gwneud,[2] tra fod 59% o berchnogion tai haf/gwyliau yn bwriadu ymddeol i’r ardal.[3] Hynny yw, er fod twristiaeth yn creu swyddi yn y tymor byr, roedd y rheini fu’n ymweld ar wyliau yn prynu ail gartref neu’n dychwelyd i brynu tŷ yn hwyrach yn eu bywydau.

Er fod ymrwymiad i’r sector o fewn strategaethau economaidd cenedlaethol, y gred gyffredinol yw fod y berthynas yma’n parhau. Er fod y sector yn cyflogi pobl yn y tymor byr, does dim llawer o ddata ar effaith y sector ar yr iaith, a chredir fod y goblygiadau hir dymor yn niweidiol i’r iaith gan ysgogi mewnfudo gan bobl ddi-Gymraeg sydd hefyd yn dwysáu heriau ynghylch prisiau ac argaeledd tai.

Fel o waith ymchwil Wavehill a JP Consulting, fe graffwyd ar ddata ynghylch cyflogaeth yn y sector, a’r berthynas ystadegol gyda’r iaith. Mae’r canlyniadau yn ddiddorol, ond yn cymhlethu’r darlun o’r cyswllt rhwng y sector dwristiaeth a’r iaith yng Ngwynedd.

Mae’n bosib tynnu ar ddata ar gyfer y cyfnod 1960-2018, ond dydy’r berthynas ddim yn arwyddocaol iawn dros y cyfnod. Ond, wrth graffu ar ddata diweddar, yn arbennig o 2003-2018, mae’r berthynas yn cryfhau, ac fe welwn berthynas arwyddocaol a chadarnhaol h.y. wrth i gyflogaeth yn y sector gynyddu, mae niferoedd siaradwyr Cymraeg yn cynyddu. Cyflwynir y data ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn y tabl isod.

Mae’r data’n cynnig felly, nad oes perthynas gryf wedi bod rhwng y sector dwristiaeth a’r iaith yn hanesyddol. Ond yn fwy diweddar, yn arbennig yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae yna berthynas rhwng cyflogaeth yn y sector a thwf yn yr iaith. Mae hi hefyd yn berthynas gadarnhaol, sy’n cynnig fod cyflogaeth yn y sector wedi cefnogi’r iaith.

Fe fydd mwy o ymchwil a data yn cyfoethogi’n dealltwriaeth o’r berthynas yma, ond gellir cynnig damcaniaeth i’w esbonio. Mae’r data’n cyd-fynd gyda’r rhagdybiaeth fod y diwydiant yn galluogi pobl leol, siaradwyr Cymraeg, i fyw ac i weithio yn yr ardal. Mae’r sector yn bwysig felly, ac mae cyflogaeth yn y sector yn achosi effaith uniongyrchol sy’n fwy cadarnhaol na’r sector amaeth er engrhaifft.

Ond cyn mynd ati i geisio ehangu cyflogaeth yn y sector rhaid nodi rhai pwyntiau pwysig. Mae tâl yn y sector yn dueddol i fod yn isel ar gyfartaledd, yn arbennig i’r gweithwyr tymhorol. Mae argyfwng COVID-19 hefyd wedi pwysleisio pa mor fregus yw’r swyddi yma.[4] Ond wrth droi at yr iaith, does dim data i gynnig nad yw dadl Phillips yn ddilys heddiw, ac mae angen ystyried effaith hir dymor y diwydiant twristiaeth ar batrymau ymfudo a phrisiau tai – ffactorau pwysig mewn perthynas a hyfywdra’r iaith.

Mae’r sector felly’n un cymhleth, sy’n dod â budd yn y tymor byr ond sydd o bosib yn niweidiol yn y tymor hir. Mae cyflogaeth yn y sector yn uchel yng Ngwynedd, ac mae’r swyddi yn caniatáu i siaradwyr Cymraeg fyw a gweithio yn yr ardal. Ond mae’r diwydiant yn denu ymfudwyr i brynu tai am brisiau uchel.

 

[1] Phillips, D. (2000). ‘We’ll keep a welcome? The effects of tourism on the Welsh language’, yn Jenkins, G.H. a Williams, M.A. (gol) Let’s Do Our Best for the Ancient Tongue – The Welsh Language in the Twentieth Century. Ailargraffiad, Wiltshire: CPI Anthony Rowe, 2015, tud. 527-550.

[2] Law, C.M. a Warnes A.M. (1973). ‘The movement of retired people to seaside resorts: A Study of Morecambe and Llandudno’, The Town Planning Review, Cyf. 44, Rhif 4 (Hyd. 1973), tud. 373-390. Heb fod ar gael ar gyfer yr Adolygiad hwn.

[3] Pyne, C.B. (1973). Second homes. Adran Cynllunio Sirol Caernarfon.

[4] https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/figures-show-how-many-workers-18601928

Share This