Perthynas amaeth a’r iaith

Hydref 2020 | Arfor, Sylw

Gan Dr Dyfan Powell, Wavehill

Dyma un o dair erthygl yn craffu ar y cyswllt rhwng tair sector benodol o’r economi a’r Gymraeg. Yma, fe fyddwn yn edrych ar y berthynas rhwng y sector amaeth. Yn ddiddorol, fe fu sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar i’r fferm deuluol, a’i rôl  yn cefnogi’r Gymraeg. Bu rhaglen Ffermio’n cyflwyno’r fferm deuluol fel ‘front line’ yn y frwydr i achub yr iaith, tra fod y BBC yn ffocysu ar sylwadau Comisiynydd y Gymraeg ynghylch yr angen i gynorthwyo ffermydd bach teuluol. Gosodwyd y galwad yng nghyd-destun ymdrechion y llywodraeth i gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r cyfrifiad yn cynnig fod 43% o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg, canran dipyn yn uwch na’r cyfartaledd o fewn y boblogaeth yn gyffredinol. Dylid disgwyl tipyn o orgyffwrdd rhwng ffermwyr a siaradwyr Cymraeg am fod ardaloedd lle mae canran siaradwyr Cymraeg yn uchel yn dueddol o fod yn ardaloedd gwledig hefyd. Rhaid cofio hefyd mai canran a niferoedd cymharol fach sy’n gweithio yn y diwydiant amaeth yn genedlaethol. Mae’r sector yn cyfrannu at greu 3.62% o gyflogaeth y wlad a 0.59% o’n GVA, ac oddeutu 53,500 sydd yn gweithio yn y sector amaeth yng Nghymru[1] – felly tua 23,000 yn siaradwyr Cymraeg.

Ond pa berthynas sydd rhwng y sector a’r Gymraeg? Ydy cefnogi a thyfu’r sector yn mynd i gael effaith gadarnhaol ar y niferoedd o siaradwyr Cymraeg?

Yn ddiweddar, craffodd Wavehill a’i bartner JP Consulting ar hyn yn Gwynedd. I gychwyn, rhaid nodi fod y data sydd ar gael ar gyfer ffigurau cyflogaeth yn y sector amaeth yn newidiol iawn, yn arbennig yr amcangyfrifon mwyaf diweddar a geir gan y SYG. Ond mae modd tynnu ar ddata yn ôl i’r 1960au er mwyn craffu ar y berthynas rhwng y sector a’r Gymraeg.

Cyflwynir y data yn y tabl isod, ac mae dadansoddiad atchweliad (regression) yn cynnig nad oes perthynas rhwng y ddau h.y. nid yw cyflogaeth yn y sector yn effeithio niferoedd siaradwyr Cymraeg.

Pan drown at oblygiadau hyn i bolisi iaith, mae’n cynnig na ddylwn ddisgwyl i gynnydd mewn cyflogaeth a thwf yn y sector amaeth i effeithio’r iaith.[2] O ystyried maint y sector a’r diffyg perthynas rhyngddi a’r iaith, ni ddylwn ystyried y sector fel ‘front line’ yr iaith a dylwn beidio ystyried tyfu’r sector fel un or ffyrdd mwyaf effeithiol o greu miliwn o siaradwyr.

Ond dydy hynny ddim yn cynnig nad oes gwerth i’r sector, ac yn sicr ddim yn ddadl yn erbyn cefnogi’r sector.

Er nad yw’r sector yn cefnogi niferoedd siaradwyr Cymraeg yn uniongyrchol, mae’r diwydiant yn rhan o isadeiledd a sylfeini cymunedau gwledig Cymreig. Mae’r cyswllt diwylliannol rhwng y tir, y bobl a’r iaith yn un pwysig, ac mae’n gyswllt y mae’r diwydiant yn helpu creu a chadw. Mae’r cyswllt yma’n anfesuradwy mewn cyfrifiad.

Yn benodol, mae’r clybiau a’r gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol megis y Ffermwyr Ifanc, y sioeau a’r marchnadoedd amaethyddol yn creu rhesymau a chyfleodd i bobl ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau a’u gwaith. Mae rôl y diwydiant yn y dychymyg yn bwysig hefyd, a’r syniad fod cymunedau gwledig, amaethyddol yn parhau i oroesi yn rhan o’r ‘stori’ rydym ni’n hoffi adrodd i’n hunain ynghylch hanes a natur yr iaith a’r wlad.

Mae’r data’n cynnig na ddylwn godi gobeithion am botensial y sector fel modd o gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg. Ond mae’n chwarae rôl eilradd bwysig yn yr ardaloedd gwledig y mae nifer yn eu gweld fel ‘cadarnleoedd’ neu’r ‘Fro’.

 

 

[1] Agriculture in the United Kingdom, 2017

[2] Heb sôn am yr her o dyfu’r sector ymysg ansicrwydd Brexit.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This