Yn galw holl fusnesau Sir Gâr a Cheredigion

Mawrth 2024 | Hyb Cysylltwr GlobalWelsh, Sylw

group of people gathering

Os ydych chi wedi clywed am Hyb Cysylltwr newydd Sir Gâr a Cheredigion ac eisiau dysgu mwy, ond eich bod yn brin o amser, dyma drosolwg cyflym…

Gwybodaeth am GlobalWelsh:

  • Pwy ydym ni: sefydliad dielw, cymunedol alltud ar lawr gwlad, a sefydlwyd yn 2012 ac a lansiwyd yn 2017, gyda chymuned fyd-eang ffyniannus o dros 20,000 o aelodau.
  • Ein cenhadaeth: cysylltu Cymry alltud a grymuso Cymru a Chymry o gwmpas y byd i ragori a ffynnu.
  • Ein gweledigaeth: Cymru sy’n fwy cysylltiedig, sy’n wynebu tuag allan, ac yn fwy ffyniannus.
  • Ein ffocws: yn seiliedig ar effaith, rydym yn cefnogi pobl a busnesau yn ein cymuned i gysylltu a thyfu.

Pam ymuno â GlobalWelsh am flwyddyn ddi-dâl?

  • Rhwydweithio byd-eang: gallwch gysylltu â Chymry a chyfeillion Cymru yn fyd-eang trwy GlobalWelsh Connect, ein platfform rhwydweithio ar-lein.
  • Mentora byd-eang: gallwch elwa ar ein rhaglen fentora fyd-eang MyMentor Academi GlobalWelsh.
  • Datblygu busnes: gallwch gael gwybodaeth am y farchnad, mewnwelediad cwsmeriaid, a lleihau risg allforio trwy ein Hybiau Dinasoedd.
  • Cyfleoedd i gael gyllid: gallwch ddefnyddio GlobalWelsh Invest i gysylltu â buddsoddwyr alltud.
  • Dod o hyd i dalent: gallwch ddenu talent o Gymru i’ch busnes neu yn ôl i Gymru.
  • Datblygiad sefydliadol: gallwch ddatblygu eich gweithwyr cyflogedig ac arweinyddiaeth bersonol trwy MyMentor.
  • Rhwydweithio cadwyni cyflenwi: gallwch nodi cyflenwyr a chydweithredwyr trwy ein Cyfeiriadur Busnes.

 

Pam fod aelodaeth y flwyddyn gyntaf yn ddi-dâl?

  • Fel rhan o gynllun peilot ar gyfer busnesau yn Sir Gâr a Cheredigion, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy raglen ARFOR, mae GlobalWelsh yn cynnig aelodaeth am ddim am flwyddyn.
  • Mae hyn yn cynnwys mynediad at holl raglenni a nodweddion GlobalWelsh, gan helpu eich busnes i gysylltu, tyfu, ac ennill mantais gystadleuol.
  • Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng y cwmni ymchwil a marchnata Sgema, GlobalWelsh, a’r Egin (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant).

 

Cymerwch ran:

  • Cymhwysedd: unrhyw fusnes cofrestredig yn Sir Gâr a Cheredigion sydd ag elfen o ddefnyddio’r Gymraeg yn eich busnes (boed hynny’n fewnol neu fel rhan o’ch marchnata neu’ch arlwy o gynhyrchion).
  • Sut i ymuno: cysylltwch i ddechrau arni ac ymuno â chymuned GlobalWelsh.

 

Ymunwch â GlobalWelsh heddiw

  • Manteisiwch ar y cyfle hwn i gysylltu â rhwydwaith byd-eang.
  • Cyfoethogwch gyrhaeddiad, arloesedd a rhagolygon twf eich busnes.
  • Byddwch yn rhan o Gymru fwy llewyrchus.

 

Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan, cysylltwch â ni ar post@sgema.cymru

I lawrlwytho taflen gyda rhagor o wybodaeth cliciwch yma: Hyb Cysylltwr Sir Gar a Cheredigion

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This