Gwybodaeth am Hyb Cysylltwr Sir Gâr a Cheredigion

Mawrth 2024 | Hyb Cysylltwr GlobalWelsh, Sylw

white and black jigsaw puzzle

Gan weithio ar y cyd â’r asiantaeth ymchwil a marchnata Sgema, bydd GlobalWelsh yn darparu, ar eu platfform, ‘blwyddyn o aelodaeth am ddim’ i fusnesau Sir Gâr a Cheredigion.

Mae’r cyllid wedi’i sicrhau drwy Gronfa Her ARFOR, sy’n rhan o raglen ehangach ARFOR, sydd â’r nod o gryfhau’r berthynas rhwng yr economi leol a’r Gymraeg yng ngorllewin Cymru.

Felly, os ydych chi’n fusnes sydd wedi’i leoli yn Sir Gâr neu Geredigion ac eisiau dysgu mwy am sut i ‘ymaelodi â GlobalWelsh am flwyddyn am ddim’ fel rhan o brosiect Hyb Cysylltwr Sir Gâr a Cheredigion, parhewch i ddarllen i gael atebion i’ch holl gwestiynau…

 

Beth yw prosiect Hyb Cysylltwr GlobalWelsh Sir Gâr a Cheredigion?

Mae’n brosiect peilot arloesol sydd â’r nod o hybu twf economaidd yn Sir Gâr a Cheredigion drwy ddefnyddio manteision busnes y Gymraeg a chysylltu cwmnïau lleol â’r Cymry alltud byd-eang.

 

Beth yw’r gost i fy musnes o gytuno i dderbyn blwyddyn o aelodaeth GlobalWelsh fel rhan o’r prosiect?

Yn syml, nid oes unrhyw gost o gwbl. Bydd y prosiect yn talu’r flwyddyn gyntaf o aelodaeth ar blatfform GlobalWelsh ar gyfer eich busnes (un cynrychiolydd busnes penodol). Gallwch benderfynu peidio ag adnewyddu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o flwyddyn.

 

Beth fydd fy musnes yn ei ennill o gytuno i dderbyn aelodaeth ddi-dâl am flwyddyn?

Bydd eich busnes yn cael mynediad at gymuned gynyddol o 20,000 o Gymry alltud wedi’u lleoli ar draws 66+ o wledydd, sy’n ymroddedig i adeiladu cymuned fyd-eang i Gymry a chyfeillion Cymru. Bydd yn cynorthwyo eich busnes gyda:

  • Rhwydweithio rhyngwladol: gallwch gysylltu â’r Cymry alltud ar draws 66+ o wledydd, gan agor drysau i farchnadoedd a chyfleoedd byd-eang.
  • Twf economaidd: gallwch fanteisio ar eich hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg fel ased economaidd unigryw, gan ddenu buddsoddiadau a syniadau newydd i’ch busnes.
  • Cydweithio arloesol: gallwch fod yn rhan o gymuned ddigidol arloesol, gan gydweithio ag entrepreneuriaid ac arweinwyr busnesau llwyddiannus.
  • Treftadaeth ddiwylliannol: gallwch roi eich busnes ar flaen y gad mewn mudiad sy’n gwerthfawrogi gwreiddiau diwylliannol.

Ein nod yw creu amgylchedd deinamig ar gyfer busnesau yng Ngheredigion a Sir Gâr drwy fanteisio ar gymuned fyd-eang gynyddol GlobalWelsh gyda Chymru yn ganolog iddi er mwyn helpu i ysgogi datblygiad economaidd a synergeddau iaith-economi.

 

Felly, yn ymarferol beth fyddai aelodaeth yn ei olygu?

Bydd busnesau sy’n cymryd rhan yn cael mynediad at gymorth gan dîm GlobalWelsh i’w helpu i gysylltu â Chymry ar wasgar ledled y byd a’r potensial i gael mynediad at fentoriaeth, hyfforddiant, gweithdai, a chymorth i ddatblygu strategaethau masnach a buddsoddi rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Mynediad at GlobalWelsh Connect. Mae hyn yn rhoi nodweddion rhyngweithiol amrywiol i aelodau, megis cyflwyno galwadau am help, dod o hyd i aelodau o’r un anian yn fyd-eang a chysylltu â nhw, cyrchu newyddion, darganfod digwyddiadau, rhannu cynlluniau teithiau, cymryd rhan mewn trafodaethau, a mwy. Mae’n llwyfan ar gyfer rhwydweithio a thwf personol a phroffesiynol.
  • Meithrin rhwydwaith sy’n hyrwyddo cyfleoedd busnes a chyfnewid diwylliannol. Trwy ei hybiau a phlatfformau amrywiol fel GlobalWelsh Connect, mae’n darparu llwyfan byd-eang i fusnesau ac entrepreneuriaid Cymreig gysylltu, cydweithio a thyfu.
  • Mae cymuned GlobalWelsh yn arwyddocaol wrth ddod â Chymry a chyfeillion Cymru ynghyd ledled y byd. Mae’n manteisio ar y rhwydwaith hwn i wella presenoldeb byd-eang Cymru, hyrwyddo cyfleoedd busnes, a hwyluso cyfnewid diwylliannol.

 

Sut gall y Cymry alltud gyfrannu at fy musnes?

Gall y Cymry alltud gyfrannu trwy fentora, rhannu arbenigedd, hwyluso cysylltiadau masnach, ac o bosibl buddsoddi mewn busnesau lleol.

 

Beth yw’r meini prawf sylfaenol i fy musnes fod yn gymwys i gael aelodaeth ddi-dâl?

Rydym yn sylweddoli bod amrywiaeth o ffyrdd i gefnogi’r Gymraeg yn Sir Gâr a Cheredigion, felly nid oes un maen prawf penodol. Rydym yn awyddus i asesu effeithiau cadarnhaol unrhyw brosiectau ar gynaliadwyedd y Gymraeg yn y rhanbarth.

Felly byddwn yn asesu hyn fesul achos, fodd bynnag mae cyfeiriad clir isod:

A oes siaradwr Cymraeg yn berchen ar eich busnes/yn rhannol berchen arno?

  1. A ydy cyfran sylweddol o’ch gweithwyr yn siarad Cymraeg?
  2. A ydy’r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn eich busnes (boed hynny ar gyfer cyfathrebu mewnol neu hyrwyddo allanol)?
  3. A oes gennych bolisi iaith swyddogol neu ‘Gynnig Cymraeg’?
  4. A yw eich gwasanaethau neu gynnyrch yn cynnwys y Gymraeg mewn rhyw ffordd, er enghraifft:
  • Darparu gwasanaethau’n ddwyieithog / amlieithog
  • Creu cynnyrch neu gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Defnyddio’r iaith yn arloesol yn eich gweithgarwch busnes

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni beth bynnag. Byddem yn croesawu’r cyfle i’ch cynorthwyo’n llawn ar eich taith ac ar y gwaethaf byddem yn awgrymu eich bod yn e-bostio cais am ‘Gynnig Cymraeg’ Comisiynydd y Gymraeg a fydd yn eich cefnogi’n rhad ac am ddim i lunio cynllun i ddatblygu’r iaith o fewn eich busnes am ddim er mantais gystadleuol.

 

Pam fod y Gymraeg yn agwedd unigryw ar y prosiect hwn?

Mae’r Gymraeg nid yn unig yn elfen ddiwylliannol ond hefyd yn ased economaidd sylweddol a all ddenu buddsoddiadau a syniadau newydd, gan ddarparu pwynt gwerthu unigryw yn y farchnad fyd-eang. P’un a ydych eisoes yn cynnig rhai gwasanaethau yn Gymraeg neu’n dechrau archwilio sut y gallwch ymgorffori’r iaith yn eich busnes, bydd eich cyfranogiad yn Hyb Cysylltwr ARFOR GlobalWelsh yn gam tuag at amgylchedd busnes mwy cynhwysol a diwylliannol gyfoethog.

 

Beth sy’n gwneud rhanbarth ARFOR yn arbennig ar gyfer y fenter hon?

Mae gan ranbarth ARFOR, sy’n cynnwys Sir Gâr a Cheredigion, dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a chymuned Gymraeg gref, sy’n ei gwneud yn lleoliad delfrydol i ddangos potensial economaidd gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Beth yw nodau hirdymor Hyb Cysylltwr ARFOR GlobalWelsh?

Mae’r amcanion hirdymor yn cynnwys meithrin cysylltiadau rhyngwladol, hyrwyddo mewnfuddsoddi a chyfleoedd allforio, a gwella datblygiad economaidd yn y rhanbarth.

 

Ychydig mwy o wybodaeth am y partneriaid?

Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng GlobalWelsh, Sgema, Yr Egin (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).

Mae GlobalWelsh yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar adeiladu cymuned fyd-eang gyda Chymru yn ganolog iddi. Ei nod yw creu cysylltiadau ystyrlon, manteisio ar adnoddau a rennir, a helpu buddsoddiad a chyfleoedd busnes i ffynnu, a’r cyfan wrth ddathlu llwyddiant Cymru a chysylltu’r gymuned Gymreig fyd-eang.

Mae’r Egin (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) yn ganolfan greadigol a digidol sydd wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Roedd datblygiad Yr Egin yn bartneriaeth rhwng y Brifysgol, S4C, Llywodraethau Cymru a’r DU, Cyngor Sir Caerfyrddin a’r sector creadigol. Mae’n darparu clwstwr creadigol ac ieithyddol ar gyfer busnesau yng ngorllewin Cymru.

 

Asiantaeth ymchwil a marchnata yw Sgema sy’n darparu gwaith cyfathrebu ac allgymorth ledled Cymru. O ymgyrchoedd cyfathrebu pwrpasol i allgymorth cymunedol ar raddfa fawr ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Dyma brif ddarparwr prosiect Hyb Cysylltwr Sir Gâr a Cheredigion.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, e-bostiwch post@sgema.cymru

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This