Yr wythnos pedwar diwrnod – a allai hi drawsnewid cymunedau gwledig?

Ebrill 2021 | Sylw

people sitting down near table with assorted laptop computers

Cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ei faniffesto a oedd yn cynnwys archwilio’r cyfleoedd ar gyfer wythnos waith fyrrach. Mae’r cynnig wedi cael ei drafod yn amwys ers rhai blynyddoedd, ond pa mor realistig yw newid ein horiau gwaith ac a allai fod o fudd i Gymru wledig?

Yn ystod y pandemig, tynnwyd sylw at ddiwylliant a disgwyliadau goramser a gallu cysylltu â phobl 24/7 ac mae’n dangos pa mor niweidiol y gall gorlwytho gwaith ei gael ar iechyd meddwl rhywun. Bydd wythnos pedwar diwrnod yn sicrhau y bydd gweithwyr yn cael amser i ffwrdd o’r swyddfa ac mae’n cael ei threialu ar hyn o bryd yn Sbaen a’r Ffindir er mwyn cynyddu lles a chynhyrchiant.

Gyda diwrnod ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith, gallai cyflogwyr a’r llywodraeth annog gweithwyr i wirfoddoli ac ychwanegu gwerth at eu cymunedau, a fyddai yn y pen draw yn creu cymdeithas wledig ffyniannus gyda gwerthoedd cymunedol cryf. Dychmygwch – cymunedau cyfan yn cael amser i gymryd rhan mewn paratoi digwyddiadau cymunedol neu ddatblygu menter gymdeithasol leol gyffrous – gallai drawsnewid ardaloedd gwledig.

Fodd bynnag, gallai’r oriau gwirfoddoli hyn amrywio o helpu yn y sector gofal cymdeithasol lleol i weithwyr sy’n buddsoddi amser i ddatblygu eu busnes eu hunain. Drwy ddilyn syniadau busnes newydd, byddai’n annog entrepreneuriaeth mewn ardaloedd gwledig ac yn cryfhau’r economi leol.

Y tro diwethaf y bu toriad mawr yn yr oriau gwaith oedd yn ystod y dirwasgiad mawr yn y 1930au. Oherwydd Covid, rydym ni mewn argyfwng economaidd tebyg, a gallai lleihau oriau gwaith helpu’r diffyg drwy leihau diweithdra a chynyddu cynhyrchiant gwaith. Ceir achos amgylcheddol hefyd gydag arwyddion cryf y gallai lleihau’r wythnos waith helpu i leihau llygredd aer a’r ôl troed carbon cyffredinol. Gan fod cymudo yn agwedd fawr o nifer y gweithwyr yn y Gymru wledig, byddai’n fuddiol lleihau teithio ac annog gweithio o bell drwy gydol yr wythnos. Mae ymchwil gan y New Economics Foundation hyd yn oed yn nodi pe byddem ni’n treulio 10% yn llai o amser yn gweithio, byddai ein hôl troed carbon yn gostwng 14.6%, a phe byddem ni’n torri’r oriau rydym ni’n eu gweithio 25%, byddai ein hôl troed carbon yn gostwng 36.6%.

Ond o ran realiti, pa mor debygol yw hyn o ddigwydd?  Mae grŵp o ASau trawsbleidiol wedi annog y llywodraeth yn ddiweddar i ystyried wythnos waith pedwar diwrnod ar gyfer y DU gyfan ar ôl Covid, gan nodi y gallai’r polisi fod yn “arf pwerus i wella o’r argyfwng hwn”.  A gyda 74% o ddinasyddion y DU sy’n credu y gallen nhw wneud eu gwaith i’r un safon pe bai wythnos pedwar diwrnod yn cael ei sefydlu, efallai y byddai achos dros dreialu’r syniad.

Yn amlwg, mae angen gwneud mwy o waith i weld sut y gellid ei weithredu a sut y byddai’n effeithio ar wasanaethau ac addysg. Ond mae’n siŵr y gall y cysyniad drawsnewid sut rydym ni’n byw a’n perthynas â gwaith.

Am fwy o wybodaeth ewch draw i’r ymgyrch wythnos 4 diwrnod.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This