Tyfu’r potensial

Ebrill 2021 | Polisi gwledig, Sylw

person holding silver round container

Bu rhwydwaith o sefydliadau annibynnol ac unigolion gyda gwybodaeth helaeth a phrofiad o fyw a gweithio yn y Gymru Wledig yn gweithio gyda’i gilydd dros y ddwy flynedd diwethaf i bwysleisio potensial yr ardaloedd gwledig.

Yn 2019, fe wnaethom gynhyrchu dogfen o’r enw ‘Cydio’n y Potensial’ oedd yn cyfeirio at y bwlch mewn polisi Cymreig i ymateb i’r cyfleoedd ar gyfer adfywiad ac adferiad ar draws y Gymru Wledig. Rydym yn ddiweddar wedi dilyn hyn gyda dogfen arall sydd yn amgaeedig ‘Tyfu’r Potensial’. Mae ein dogfen newydd yn amlygu ein pryderon fod Cymru yn methu adeiladu ar ddatblygiad menter wledig gymunedol fel LEADER i gefnogi arloesedd lleol.

Galwn felly ar gynrychiolwyr etholedig y dyfodol, o bob plaid, i ymrwymo i ddull arloesol yn y gymuned wrth ymdrin â datblygu gwledig. Rydym yn galw am wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn ymateb i leisiau cymunedol, ac yn effro i effeithiau polisi ar anghydraddoldebau gwledig. Dylid gwarantu cyllid ar gyfer rhaglen arloesi cymunedol, sydd o leiaf yn cyfateb i’r hyn sydd yn y Cynllun Datblygu Gwledig diwethaf.

>Cwmpawd Gwledig Cymru<

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This