Seminar Cymru wledig

Mehefin 2021 | Polisi gwledig, Sylw

landscape photography of cable bridge near mountain range

Cyflawni Potensial Cymru Wledig – Mehefin 22 2021, 2pm – 4.30pm

Wrth i Lywodraeth newydd Cymru ddechrau gweithio ar adferiad cenedlaethol ar ôl pandemig Covid-19, mae’r seminar hon yn gofyn, sut y bydd yn cyflawni dros gefn gwlad Cymru?

Dynodir naw ardal cyngor fel ardaloedd gwledig. Gyda’i gilydd maen nhw’n gartref i dros draean o boblogaeth Cymru gyda llawer mwy mewn pocedi gwledig mewn ardaloedd cynghorau eraill. Mae’r naw cyngor gwledig yn cwmpasu ardal o dros 80% o dirfas Cymru.

Mae Gweledigaeth Wledig CLlLC a’r Adroddiad Tystiolaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi’r heriau i gefn gwlad Cymru, y mae llawer ohonynt wedi ffurfio asgwrn cefn polisi datblygu gwledig dros nifer o flynyddoedd. Ar ôl Covid-19 ac ar ôl Brexit mae heriau newydd i’w hwynebu ond mae’r ymateb ar gyfer Cymru wledig yn dameidiog rhwng strwythurau rhanbarthol sy’n dod i’r amlwg fel Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a mecanweithiau cyflenwi fel Bargeinion Dinesig a Thwf.

Bydd y seminar yn ymdrin â’r cwestiynau canlynol a mwy:

  • Sut y gellir cefnogi gweledigaeth integredig gydlynol ar gyfer cefn gwlad Cymru wrth symud ymlaen?
  • Sut y byddwn yn adeiladu ar wersi LEADER i feithrin mecanweithiau cyflwyno amlasiantaethol sy’n canolbwyntio ar le ac yn canolbwyntio ar y gymuned?
  • Sut mae meithrin a chefnogi arloesedd a arweinir yn lleol sydd wedi’i wreiddio mewn cymunedau lleol?

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Yr Athro Michael Woods Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth. “Cyflwyno’r Weledigaeth Wledig: Opsiynau Llywodraethu a Datblygu Gwledig yng Nghymru”.
  • Wynfford James, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgema Cyf “Y Gofod ar gyfer Arloesi: Antur Teifi LEADER I a II”
  • Jon Parker, Prif Weithredwr, YDCW. “Ymgysylltu â’r Gymuned yng Nghyd-destun Datblygu Gwledig”

Bydd y panel yn cynnal trafodaeth ar ôl cyflwyniadau byr a gellir gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/delivering-the-potential-of-rural-wales-cyflawni-potensial-cymru-wledig-tickets-157635753783

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This