Comisynydd y Gymraeg yn lansio ymgyrch newydd i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg

Tachwedd 2023 | Arfor, Sylw

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi lansio ymgyrch ‘Defnyddia Dy Gymraeg’ fel modd o annog pobl i ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd. Mae’r Comisiynydd yn eiddgar i weld cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg ar draws gwahanol sefyllfaoedd a chyd-destunau, boed hynny yn y gweithle, yn yr ysgol neu yn rhan o fywyd hamdden. Nod yr ymgyrch yw annog pobl i ddefnyddio’r hynny o Gymraeg sydd ganddynt, boed hwy’n rhugl neu beidio yn enw sicrhau fod y Gymraeg yn rhan naturiol o’u bywydau dydd i ddydd.

Ers cymryd y swydd yn gynharach yn y flwyddyn, mae ysgogi defnydd o’r Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth i Efa Gruffydd Jones. Mewn datganiad dywedodd:

‘Er mwyn i iaith fyw ac i oroesi, mae angen iddi cael ei defnyddio ymhob agwedd o gymdeithas. Dros y deuddeg mis diwethaf rwyf wedi cael y cyfle i ymweld ag amryw o sefydliadau, yn fusnesau, ysgolion, canolfannau cymunedol a charchardai hyd yn oed.

‘Roedd yn braf clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol yn y lleoedd hyn a phobl yn ymfalchïo yn yr iaith.’

Yn rhan o’r ymgyrch mae cyfres o ffilmiau wedi eu cynhyrchu sy’n dangos defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau ac amryw o sefydliadau cyhoeddus wedi eu hannog i rannu’r neges drwy ddefnyddio’r hashnod #DefnyddiaDyGymraeg. Bydd yr ymgyrch yn rhedeg o 27 Tachwedd hyd at 11 Rhagfyr 2023. Mae modd canfod mwy o wybodaeth am yr ymgyrch ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This