Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 i fwrw golwg ar degwch

Tachwedd 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn canolbwyntio ar degwch, a’r modd y gellid sicrhau bod sgil effeithiau unrhyw newidiadau polisi sy’n dyfod o’r angen i leihau allyriadau carbon yn cael eu teimlo’n deg ar draws cymdeithas.

Un o’r digwyddiad wedi’i drefnu yw cynhadledd rithiol fydd yn cael ei chynnal dros 5 diwrnod yn dechrau ar 4 Rhagfyr hyd at 8 Rhagfyr 2023, gyda mynediad i’r trafodaethau yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd eisiau mynychu. Ar draws y sesiynau bydd yna bwyslais penodol ar sut y mae newid hinsawdd yn tueddu i effeithio yn anghymesur ar wahanol bobl ac ardaloedd a sut y gellid sicrhau fod budd unrhyw newidiadau polisi yn cael effaith deg ar draws cymdeithas.

Bydd y gynhadledd yn agor gyda chyflwyniad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS y trafod ‘pontio teg’. Mae modd canfod mwy o wybodaeth â gweld amserlen gyfan ar gyfer y digwyddiad, ynghyd a chofrestru i fynychu, drwy ymweld a gwefan Wythnos Hinsawdd Cymru 2023.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This