Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud fod miliwn yn llai yn cael lles iechyd o natur ers 2020

Tachwedd 2023 | Sylw

man wearing pink jacket

Yn ôl Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae miliwn yn llai o bobl yn treulio amser yn natur ers pandemig COVID-19. Amcangyfrifir fod tua 1.1 miliwn yn llai o bobl wedi gwneud lles i’w hiechyd drwy fod allan yn yr awyr agored yn 2022 o gymharu â dwy flynedd cyn hynny.

Yn ôl y ffigurau gwerth y gostyngiad mewn gweithgaredd ym myd natur yn nhermau ariannol oedd £390 miliwn, oddeutu £365 i bob person ar gyfartaledd. Dyma’r ffigwr y tybir y byddai’r gwasanaeth iechyd yn barod i’w wario os byddai’n defnyddio triniaethau i ennill yr un buddion a geir o amser yn natur. Mae’r canfyddiadau yn rhan o gyfrifiadau cyfalaf naturiol y DU: 2023, sy’n ceisio amcangyfrif gwerth ariannol cyfoeth naturiol y DU. Mae modd canfod mwy o wybodaeth ynghylch methodoleg yr arolwg hwnnw drwy ddilyn y ddolen hon. Am fwy o fanylion ynghylch canfyddiadau’r Swyddfa am amser yn natur yn benodol, ewch i’w gwefan i ddysgu mwy.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This