Datblygu Mentergarwch yng Ngwynedd a Môn

by Ion 13, 2021Arfor, Arloesi entrepreneuraidd, Featured CY

Dros gyfnod o 10 wythnos yn yr haf cynhaliwyd prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 gan Fenter Môn ar ran prosiect Arfor oedd yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc gan amlygu’r cyfleoedd a’r gwaith yn eu hardaloedd.

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn cael ei weithredu yn sir Fôn a Gwynedd ac yn ceisio cefnogi pobl ifanc sydd am wreiddio eu bywydau yn y cymunedau hynny. Un o broblemau demograffeg yr ardaloedd hyn yw cynifer o bobl ifanc sy’n penderfynu gadael yr ardal i fyw a gweithio mewn ardaloedd dinesig fel Caerdydd a Lerpwl. Mae’r prosiect yn dangos bod modd aros yn eu cymunedau i weithio ac ychwanegu gwerth i gymdeithas a diwylliant unigryw’r ardal.

Elen Hughes yw’r swyddog prosiect sy’n credu bod profiad a heriau sy’n wynebu pobl ifanc yn amrywio o berson i berson,

“Un camgymeriad yr ydym yn dueddol o’i wneud ydy cyffredinoli yn ormodol. Rhaid cofio fod pawb yn wahanol, yn byw bywydau gwahanol, o gefndiroedd amrywiol. Gwahanol ac amrywiol iawn yw’r heriau sy’n ein hwynebu fel pobl felly, yn naturiol.”

Er hyn mae’r gwaith wedi dangos bod diffyg hyder yn medru effeithio ar benderfyniadau pobl ifanc i fentro yn y byd busnes gyda’r unigolion yn nodi nad yw entrepreneuriaeth yn rhywbeth sy’n gyfarwydd iddynt. Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn awyddus i gynorthwyo pobl ifanc yr ardal, mewn cyfnod heriol, i archwilio’r holl bosibiliadau ar gyfer dyfodol yn eu cymunedau.

Cymerodd 14 person rhan yn y prosiect gyda phob un yn lansio eu menter newydd. Roedd  busnesau’r unigolion yn amrywio o gwmni llaeth dafad i gwmni creu dillad nofio a ddangosodd dyfeisgarwch a brwdfrydedd ymysg y bobl ifanc. Mae’r swyddog prosiect hefyd yn grediniol taw gonestrwydd oedd un o gryfderau’r prosiect wrth weithio gyda’r bobl ifanc.

“Daeth i’r amlwg fod y sgyrsiau gonest wedi bod yn agoriad llygaid, yn cydnabod ac yn normaleiddio methiant, heriau a thrafferthion cyffredinol bywyd. Roedd clywed a dysgu am fethiannau eraill mewn awyrgylch heb feirniadu, yn llwyddo i fagu a meithrin hyder yr entrepreneuriaid yma yn eu cynlluniau, ond hefyd fel pobl o gig a gwaed”

Wrth edrych tua’r dyfodol mae 9 o’r 14 person ifanc wedi ymrwymo i gynllun estynedig gyda Llwyddo’n Lleol 2050, sy’n gynnig cyflog am un diwrnod yr wythnos i’r unigolion. Mae hyn yn sicrhau amser a chefnogaeth ariannol er mwyn parhau â’u cynlluniau fydd heb os, yn werthfawr iawn i gymunedau Môn a Gwynedd yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd y prosiect yn mentro a herio’r drefn arferol trwy geisio gwireddu eu dymuniadau. Rydym hefyd yn gobeithio cydweithio â siroedd Caerfyrddin a  Cheredigion yn y dyfodol, er mwyn efelychu’r gwaith yno. Mae presenoldeb pobl ifanc lleol yn holl bwysig i’n cymunedau, ac yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg a datblygiad economaidd cymdeithasol yr ardaloedd hyn.

Yn sicr mae’r prosiect wedi llwyddo i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid ond mae cymaint o gwestiynau hefyd wedi eu codi sy’n rhaid eu trafod fel pam yn union fod pobl ifanc yn gadael? Pa mor bwysig yw gyrfa? Beth yw blaenoriaethau’r genhedlaeth nesaf? Beth allwn ei wneud i helpu? Os  ydych chi am fod yn rhan o’r drafodaeth hon, cysylltwch!

Share This