Pwysigrwydd siopa’n lleol i gymunedau gwledig

Rhagfyr 2020 | Sylw, Tlodi gwledig

two women walking on pathway

Dros y mis diwethaf mae llawer o sefydliadau wedi ein hannog ni, fel defnyddwyr, i siopa a chefnogi busnesau lleol dros gyfnod yr ŵyl gydag ymgyrchoedd gan Cywain a Bro360 yn amlwg yma yng Nghymru. Ond pa mor bwysig yw siopa’n lleol ar gyfer ein cymunedau gwledig ac a oes angen i ni wneud mwy i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru wledig?

Mae ymchwil ddiweddar gan Visa yn dangos, am bob £10 rydym yn ei wario mewn busnesau lleol, fod mwy na thraean yn aros yn uniongyrchol yn yr ardal leol ac felly yn dyblu’r swm sy’n cylchredeg yn yr economi leol. Fodd bynnag, nid yw’r gwaith ymchwil hwn yn rhoi’r darlun gwledig llawn. Gellir gweld dull mwy lleol gan 4CG, sefydliad cydweithredol sy’n cefnogi datblygiad cymunedol yn Aberteifi a’r cyffiniau. Mae ei waith, ynghyd â busnesau lleol newydd cyffrous, wedi trawsnewid y stryd fawr ac mae’n profi bod galw o hyd am dref farchnad fywiog draddodiadol yng nghefn gwlad Cymru. Mae ei ymchwil hefyd yn adrodd stori debyg am yr effaith caseg eira y gall siopa mewn busnesau lleol ei sicrhau; o bob £100 sy’n cael ei wario mewn siop leol yn yr ardal, mae’n creu £600 i’r economi leol ar gyfartaledd. Ond yr hyn sy’n syfrdanol yw cymharu’r un swm wrth siopa mewn archfarchnad fawr lle mai dim ond 25c sy’n cael ei gyfrannu i’r economi leol. Mae’r gwaith a wneir yma yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i ni o bwysigrwydd yr economi gylchol i ardal wledig fel Aberteifi.

Felly, mae’r ystadegau hyn yn dangos gwerth economaidd siopa’n lleol i gymunedau gwledig. Ond, gydag un siop o bob pump ar stryd fawr Cymru yn wag ar hyn o bryd, mae angen mwy o ymdrech ymwybodol i adfywio ein cymunedau gwledig, a fydd yn y pen draw yn creu strydoedd mwy prysur ac unigryw. Mae Crughywel yn enghraifft dda o hyn, sydd â stryd fawr annibynnol ffyniannus gyda’r rhan fwyaf o unedau yn berchen i bobl leol.  Mae perchnogion busnesau lleol yn tueddu i gefnogi’r economi leol ymhellach naill ai drwy wario eu helw gyda busnesau lleol eraill, cefnogi elusennau lleol neu fuddsoddi mewn sefydliadau lleol, sy’n golygu mai cefnogi busnesau lleol yw’r peth iawn i’w wneud yn foesol.

Nid dim ond elw’r busnesau sy’n creu mwy o gyfoeth i’r ardal, ond wrth gefnogi busnesau lleol, gall greu economi iachach hefyd. Drwy ddewis yr opsiwn llai a lleol yn hytrach na siopau cadwyn cenedlaethol, mae’n rhoi cyfle i entrepreneuriaid gael eu troed yn y drws a sefydlu busnes. Nid yn unig hynny, mae busnesau lleol yn fwy tebygol o dalu cyflog cyfartalog uwch na busnesau cyfatebol yn y gadwyn fasnachol a gallant sicrhau bod pobl yn cael cyfle i barhau i fyw mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r rhan fwyaf o fusnesau lleol yn rhan annatod o’r economi sylfaenol, felly, mae arnom eu hangen yn ein bywydau bob dydd. Mae’r economi sylfaenol yn cyfrif am 40% o’r gweithlu yng Nghymru; mae hynny’n golygu drwy ddewis siopa’n lleol mewn economi wledig, mae siawns uchel y byddwch hefyd yn helpu i gryfhau economi gyffredinol Cymru.

Mae agwedd amgylcheddol sylfaenol hefyd ar siopa’n lleol drwy benderfynu teithio llai i’r gwasanaethau a’r busnesau eu hunain, gan werthu cynnyrch lleol sy’n helpu i leihau eu hôl troed carbon. Mae hyn hefyd yn cael effaith economaidd drwy gefnogi busnesau lleol eraill nad ydynt bob amser i’w gweld ar y stryd fawr.

Mae pwysigrwydd siopa’n lleol gyda busnesau sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau gwledig yn glir ac os ydym am ffurfio adferiad cenedlaethol ar gyfer ardaloedd gwledig ar ôl y pandemig, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn dewis siopa’n lleol drwy gydol y flwyddyn ac nid dim ond ar gyfer y Nadolig.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This