Sector Gyhoeddus a’r Iaith

by Rhag 1, 2020Arfor, Featured CY

Gan Dr Dyfan Powell, Wavehill

Dyma flog arall mewn cyfres sydd yn craffu ar y cyswllt ystadegol rhwng sectorau penodol o’r economi a’r Gymraeg yng Ngwynedd. Mae’r blog yma yn archwilio’r berthynas rhwng y sector gyhoeddus a’r Gymraeg.

Mae’r sector gyhoeddus wedi bod yn ffocws i gynllunwyr a sylwebwyr iaith dros y blynyddoedd, ac mae nifer wedi pwysleisio’r modd y gall y sector gyhoeddus gynnig “swyddi da” – yn y cyd-destun yma, swyddi sy’n talu’n gymharol uchel, mewn ardal gymharol ddifreintiedig neu lle mae cyflogau yn isel ar gyfartaledd. Gan fod Cyngor Gwynedd yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, mae angen siaradwyr Cymraeg i dderbyn y “swyddi da” yma. Dyma gyfuniad delfrydol felly i gynllunwyr iaith, lle gwelir swyddi da yn caniatáu pobl i fyw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngwynedd. Mae angen cofio hefyd fod yna ddisgwyliad wedi bod yn sgil Deddf Iaith 1993, fod y sector yn datblygu a darparu gwasanaethau cyfrwng Gymraeg.

Bu Wavehill a JP Consulting yn craffu ar y cyswllt rhwng y sector a’r Gymraeg, fel rhan o waith ehangach. Mae’r canlyniadau yn gofyn i ni ailystyried natur y berthynas yma, a rôl y sector gyhoeddus fel arf i gefnogi hyfywdra’r iaith. Gellir defnyddio data sy’n ymestyn o’r 1960au hyd 2018. Cyflwynir y data ar gyfer cyflogaeth yn y sector a’r Gymraeg yn y tabl isod.

Yn ddiddorol, wrth graffu ar y data ers yr 1960au, does dim cyswllt rhwng cyflogaeth yn y sector a niferoedd siaradwyr Cymraeg.[1] Ond os canolbwyntiwn ar y data o 1994, mae’r berthynas dipyn yn gryfach hyd at 2001 ond iddi wanhau ar ôl hynny. Wrth ail-osod y data o 2003-2018, cawn darlun cliriach o’r tueddiad yma i’r berthynas rhwng y sector gyhoeddus a’r iaith wanhau. Mae’r berthynas ystadegol rhwng y sector gyhoeddus a’r iaith yn gymharol gryf felly yn ystod yr 1990au, ond wedi gwanhau ers hynny. Mae angen mwy o waith a dadansoddi i geisio datblygu esboniad o hyn, ond gellir cynnig fod y sector gyhoeddus wedi tyfu, a pharhau i dyfu ers yr 1990au, ond efallai yn tyfu’n gyflymach na chapasiti’r farchnad lafur sy’n siarad Cymraeg h.y. mae mwy o swyddi yn y sector gyhoeddus nag sydd o siaradwyr Cymraeg sy’n cynnig neu’n gymwys am y swyddi.

Mae dadansoddiad atchweliad o’r cyfnod 1994 – 2003 hefyd yn cynnig fod yna gyfeirnod negyddol,[2] ac fod cyflogaeth o fewn y sector yn ystod y cyfnod hwn yn cael effaith negyddol ar yr iaith h.y. wrth i gyflogaeth yn y sector gynyddu, mae niferoedd siaradwyr Cymraeg yn cwympo. Mae hyn yn annisgwyl, ac yn reddfol anodd i’w dderbyn, ond mae’r berthynas i’w gweld yn yr ystadegau. Mae esbonio’r berthynas negyddol rhwng y sector a’r iaith yn anos, a phrif gasgliad y gwaith yw’r angen am fwy o waith i ddeall y berthynas yma’n well. Ond mae’n werth ystyried y ffactorau canlynol hefyd wrth ddechrau dadansoddi’r data yma;

  • Efallai fod cyfradd y cynnydd ymysg mewnfudwyr a niferoedd sydd ddim yn medru’r Gymraeg yma yn uwch na’r cynnydd o siaradwyr Cymraeg sy’n cael ei sicrhau drwy gyflogaeth yn y sector.
  • Mae’n bosib fod y dychymyg cyhoeddus, a’r ddamcaniaeth am effaith ieithyddol y sector gyhoeddus yn ystyried y Cyngor fel prif gyflogwr y sector gyhoeddus. Ond mae angen ystyried y niferoedd sylweddol sy’n gweithio yn y sector yn ehangach, gan gynnwys y gwasanaeth a’r bwrdd iechyd. Ydy cyfraddau siarad Cymraeg gweithlu Cyngor Gwynedd yn adlewyrchiad o’r sector gyhoeddus yn gyffredinol?
  • Mae niferoedd siaradwyr Cymraeg yn y sector gyhoeddus yng Ngwynedd yn gymharol uchel, ond mae’n bosib fod y sector yn creu galw sy’n denu’r siaradwyr Cymraeg yma oddi wrth sectorau eraill yn yr economi h.y. dydy’r sector ddim yn annog mwy o siaradwyr Cymraeg i fyw a gweithio yn yr ardal – mae’n eu dadleoli neu’n eu ‘sugno’ o sectorau eraill o fewn y Sir.
  • Nid yw addysg yn rhan o’r sector gyhoeddus sy’n cael ei ddadansoddi yn y data yma (mae data penodol ar gyfer addysg). Mae’r sector yn debygol o fod yn ffactor allweddol bwysig sy’n cefnogi hyfywdra’r iaith.

Ond i gloi, rhaid gofyn cwestiwn sylfaenol sy’n cysylltu’r tri blog sy’n ymdrin a’r cyswllt ystadegol rhwng sectorau’r economi a’r Gymraeg yng Ngwynedd; oes perthynas gryf rhwng iaith a gwaith? Mae’r data yn cynnig perthynas wan ar y cyfan, ac un sy’n gallu bod yn negyddol ar adegau. Mae hyn yn cynnig fod ffactorau ehangach yn achosi mwy o effaith ar y niferoedd a’r canran o siaradwyr Cymraeg sy’n byw mewn ardal.

Cymerwch olwg ar weddill blogiau’r cyfres sy’n trafod perthynas y Gymraeg a sectorau gwahanol:

Perthynas amaeth a’r iaith  

Twristiaeth a’r iaith yng Ngwynedd

 

[1] Gyda rhif R2 o 0.004, mae’r berthynas yn druenus o wan.

[2] Gyda rhif R2 o 0.32

Share This