IBERS yn cymryd rhan ym mhrosiect ‘Protein Pys’

Mehefin 2023 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

water droplets on green leaf

Mae Canolfan IBERS Prifysgol Aberystwyth i gymryd rhan mewn prosiect newydd i ganfod mathau newydd o bys er mwyn lleihau dibyniaeth ar fewnforio soia.

Bydd y prosiect, sy’n cael ei arwain gan arbenigwyr bridio hadau glaswellt a phorthiant Germinal ac yn cynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth, yn ceisio canfod ffyrdd o ddefnyddio pys fel ffynhonnell o brotein mewn bwydydd dynol ac anifeiliaid.

Mae pys yn gweddu hinsawdd dyfu’r Deyrnas Gyfunol yn well na soia, sy’n anodd i’w dyfu yma. Drwy ddatblygu mathau newydd o bys all gymryd lle soia, gellid lleihau dibyniaeth ar fewnforio er mwyn cynhyrchu protein sy’n seiliedig ar blanhigion.

Gall datblygiad o’r fath nid yn unig fod o fudd i sicrhau cyflenwad bwyd, ond hefyd yn help i adnewyddu pridd tir amaethyddol, gan fod planhigion pys yn rhyddhau nitrogen fel rhan o’u proses tyfu naturiol. Byddai sicrhau planhigion pys sydd yn rhydd o flas penodol y llysieuyn yn caniatáu llwybr tuag at ffordd llawer mwy cynaliadwy o gynhyrchu protein.

Mewn datganiad, dywedodd Dr. Catherine Howarth o IBERS:

“Mae gan bys broffil maeth rhagorol ac maent yn rhan bwysig o gylchdroadau cynaliadwy yn amaethyddiaeth y Deyrnas Gyfunol. Gallan nhw hefyd helpu i leihau ein dibyniaeth ar soia sy’n cael ei fewnforio, a fydd yn cefnogi cymdeithas i gyrraedd targedau sero net y llywodraeth. Mae amrywiaeth eang o gynhyrchion sy’n cynnwys pys fel cynhwysyn ac rydyn ni’n llawn cyffro o fod yn rhan o’r prosiect hwn.”

Mae modd darllen mwy am y prosiect yn ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This