Lansio adroddiad newydd NFU Cymru yn y Senedd

Mehefin 2023 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru wedi lansio adroddiad newydd yn y Senedd ym mae Caerdydd. Mae’r grŵp wedi ei ffurfio o randdeiliaid o ar draws y sector amaeth yng Nghymru, gyda’r bwriad o roi cynrychiolaeth a llais i’r rhai ifancach oddi fewn i’r diwydiant. Nod yr adroddiad yw dangos sut y gall polisïau penodol, o’u dilyn gan Lywodraeth Cymru, arwain at ddyfodol llewyrchus i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr Cymru.

 

Mae’r adroddiad yn dathlu cyfraniad ffermwyr ifanc i’r diwydiant amaeth yng Nghymru ac yn amlinellu gofynion penodol polisi sydd gan NFU Cymru i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

 

Gwella mynediad at dir er mwyn i newydd ddyfodiaid i’r diwydiant amaeth allu sefydlu eu hunain a gwella defnydd o’r tir hwnnw.

Cynyddu mynediad at gyllid i ffermwyr ifanc.

Blaenoriaethu bwyd wedi ei gynhyrchu yn lleol yn y broses gaffael.

Galw ar awdurdodau lleol i ddeall pwysigrwydd y rhwydwaith ffermydd cyngor.

Sicrhau fod y diwydiant ffermio yng Nghymru yn cael ei bortreadu’n gywir yng nghwricwlwm Cymru.

 

Daeth lansiad yr adroddiad i gyd-fynd a diwedd Wythnos Ffermio Cymreig a welodd digwyddiadau ar draws Cymru er mwyn hyrwyddo cynnyrch Cymreig a dangos cefnogaeth i’r diwydiant yma. Noddwyd y digwyddiad gan Sam Kurtz, yr Aelod Seneddol ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Mae modd darllen yr adroddiad cyfan yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This