Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y sector dai

Awst 2023 | Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

an aerial view of a city with lots of houses

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio papur gwyrdd gyda’r bwriad o ddarganfod barn y cyhoedd ynghylch agweddau ar y sector dai.

Yn ôl y papur gwyrdd mae ganddynt ddiddordeb mewn ceisio barn y bobl ynghylch “rhenti, ymddygiad tenantiaid a landlordiaid, fforddiadwyedd a dulliau gweithredu lefel uchel y gallem eu defnyddio i wella’r cyflenwad o dai a digonolrwydd tai ymhellach dros amser.”

Maent hefyd yn awyddus i glywed barn pobl am ffyrdd o sicrhau stoc cartrefi digonol. Y bwriad yw bwydo adborth a ddaw yn sgil y papur gwyrdd i bapur gwyn bydd yn cynnwys dulliau newydd o wneud cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio a Phlaid Cymru.

Yn ôl rhagair y gweinidog Julie James:

“Cyn datblygu unrhyw gynigion ar gyfer ymyriadau polisi neu newid deddfwriaethol mewn Papur Gwyn, mae angen inni gasglu tystiolaeth er mwyn deall yn fanylach y Sector

Rhentu Preifat yng Nghymru o ran y ffactorau ysgogi ar gyfer tenantiaid a landlordiaid, yn ogystal â’r newidiadau tymor hwy y gallai fod angen i’r sector ddarparu ar gyfer eu cyfer yn y dyfodol, er mwyn inni allu deall effeithiau neu ganlyniadau.”

Mae modd ymateb drwy lenwi ffurflen ymateb. Gallwch ddarllen y papur gwyrdd yn ei gyfanrwydd yma, tra bod modd canfod dogfennau atodol a’r ffurflen ymateb fan hyn.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This