Rhwydwaith Tafarndai Cymunedol Cymru yn trefnu eu cyfarfod cyntaf

Mehefin 2023 | Polisi gwledig, Sylw

blue and white round container

Mae Rhwydwaith Tafarndai Cymunedol Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal sesiwn rhwydweithio anffurfiol i grwpiau tafarndai cymunedol Cymru gael cwrdd a’i gilydd a thrafod eu gwaith. Cynhelir y cyfarfod ar Zoom ar ddydd Iau 29 o Fehefin am 6:30yh.

Bydd y sesiwn a drefnwyd gan Sefydliad Plunkett, yn dechrau gyda sgwrs gyda aelodau grŵp The Salusbury Arms o Sir Ddinbych bydd yn trafod datblygu eu tafarn. Wedyn bydd yna sesiwn agored er mwyn trafod gwahanol agweddau ar berchnogaeth gymunedol o dafarndai. Bydd yna gynrychiolaeth hefyd o Cwmpas ac WCVA hefyd ar yr alwad.

Mae perchnogaeth gymunedol o dafarndai wedi cynyddu mewn poblogrwydd yn ddiweddar, wrth i gymunedau sylweddoli y gwerth gall dafarn ddarparu fel hwb gymunedol i unigolion gael dod ynghyd.

Mae modd mynegi eich diddordeb a chofrestru i’r digwyddiad drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This