Trafod ARFOR ar Radio Cymru

Tachwedd 2023 | Arfor, Sylw

Cafwyd trafodaeth ynghylch ARFOR ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru ar ddydd Gwener 24 Tachwedd. Bu Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth yn siarad gyda Dewi Llwyd yn rhoi trosolwg o hanes ac amcanion y rhaglen a’r math o waith sy’n cael ei gyflawni o dan ymbarél ARFOR yn ystod ail ran y cynllun.

Dywedodd Dr Royles:

‘Mae ‘na bwyslais clir ac ymwybyddiaeth wedi bod fod angen mwy o ddealltwriaeth o’r berthynas rhwng yr economi a’r iaith o fewn Rhaglen ARFOR, ond hefyd y tu hwnt. Rydyn ni’n gwybod fod o’n bwysig, mae ‘na ymwybyddiaeth yn y llenyddiaeth ehangach bod o’n bwysig ond dim llawer o ymchwil. Ac felly yn rhan o’r gwaith dysgu, ein rôl ni ydi annog mwy o sylw i’r berthynas rhwng y ddwy elfen a thrafod canfyddiadau gwerthusiad ARFOR maes o law. Byddwn yn trio bwydo’r rhaglen wrth i ni fynd ymlaen drwy adolygu ymchwil a gweithgareddau eraill gan gynnwys drwy dynnu ymchwil o’r tu hwnt i Gymru i sylw ymarferwyr sy’n gweithio yn y maes.’

Gallwch wrando ar y sgwrs gyfan drwy ddilyn y ddolen hon (sgwrs yn dechrau tua 12 munud mewn).

Mae Dr Royles wedi cyfrannu erthygl i Arsyllfa yn edrych ar egwyddorion craidd rhaglen ARFOR, gan osod sawl cwestiwn hanfodol i’w hystyried os yw’r rhaglen am fod yn un llwyddiannus geith effaith hir dymor.

I gadw golwg ar y newyddion diweddaraf ynghylch ARFOR ynghyd a straeon am economi a bywyd cefn gwlad Cymru, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr wythnosol i dderbyn crynodeb o’n holl erthyglau, drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This