Mae amryw o gwmnïau sy’n cynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru am gael y cyfle i arddangos eu nwyddau mewn sioe fwyd yn Efrog Newydd. Mae’r ‘Summer Fancy Food Show 2023’ yn cael ei chynnal gan Speciality Food Association yn wythnos olaf mis Mehefin. Dyma yw digwyddiad masnach bwyd arbenigol mwyaf America, ac mae’r sawl sy’n mynychu yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru er mwyn arddangos yno.
Yn rhan o’r ddirprwyaeth bydd The Billington Group, Tŷ Nant, Welsh Lady Preserves, Morning Foods a Hilltop Honey.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:
“Rydym i gyd yn gwybod bod ansawdd bwyd a diod Cymreig gyda’r gorau yn y byd ac mae angen i ni sicrhau ei fod yn cael ei gydnabod yn iawn.
“Rydym yn falch o gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod yn y digwyddiad byd-eang pwysig hwn, gan ailddatgan ein hymrwymiad i godi ein proffil rhyngwladol a chefnogi ein busnesau. Rydym yn gweld yr Unol Daleithiau fel un o’n marchnadoedd allforio allweddol ac rydym yn gweithio’n galed i godi proffil ein cynhyrchwyr a thyfu’r diwydiant.”
Mae’r arddangosfa yn para tridiau yn rhoi cyfle i fusnesau bwyd a diod wneud cysylltiadau busnes gwerthfawr, rhwydweithio’n rhyngwladol a dod i ddeall eu sectorau cynnyrch yn well. Mae yna 2,500 o arddangoswyr yn dangos nwyddau i 25,000 o brynwyr yn y digwyddiad. Mae modd canfod mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon.