Cyhoeddi £58m o fuddsoddiad mewn llwybrau teithio llesol

Mehefin 2023 | Polisi gwledig, Sylw

blue and black bicycle lane

Mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb am drafnidiaeth wedi cyhoeddi fod Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £58m mewn llwybrau teithio llesol yn y flwyddyn 2023 i 2024. Mae llwybrau o’r fath yn caniatáu i bobl gerdded a beicio ar wahân i lwybrau traffig modur. Mae’r gyllideb ar gyfer llwybrau o’r fath wedi cynyddu o £15m i £70m ers 2018.

Dywedodd Lee Waters:

Mae cerdded a beicio yn cynnig ymateb ymarferol a hanfodol i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau amgylcheddol ac iechyd.

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn rhoi pwysau arnom i ddarparu rhwydweithiau teithio llesol o ansawdd uchel sy’n annog mwy a mwy o bobl i gerdded a beicio yn rheolaidd ar gyfer teithiau yn lle defnyddio car.

Mae’r cyllid heddiw yn fuddsoddiad sylweddol arall a fydd yn ein helpu i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ledled Cymru sydd wedi’u cynllunio i gysylltu pobl â’u hoff leoedd a’r lleoedd y mae angen iddyn nhw fynd iddyn nhw.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y £58m yn arwain at adeiladu 37 o lwybrau teithio llesol newydd. Mae modd gweld lle a sut bydd yr arian yn cael ei wario ym mhob rhan o Gymru drwy ddilyn y ddolen hon.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This